| Argraffu'r canllawiau llawn

Defnyddio argraffnodau

Rhaid ychwanegu argraffnod at yr holl ddeunydd etholiadol wedi’i argraffu i ddangos pwy sy’n gyfrifol am ei gynhyrchu.1

Dylech sicrhau bod eich argraffnod yn glir ac yn weladwy. 

Mae ein canllaw ar argraffnodau ymgeiswyr ar ddeunyddiau wedi’u hargraffu yn egluro’r rheolau y mae’n rhaid i chi eu dilyn os ydych chi’n ymgeisydd yn y math hwn o etholiad. 

O dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae angen argraffnodau ar rai deunyddiau digidol hefyd.2 I weld y gofynion ynghylch argraffnodau ar gyfer deunyddiau digidol, darllenwch ein canllawiau statudol ar wasgnodau digidol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025