| Argraffu'r canllawiau llawn

Datganiad o aelodaeth plaid

Rhaid i chi gynnwys datganiad o aelodaeth plaid ar eich ffurflen cydsynio ag enwebiad.1 Rhaid iddo nodi a ydych chi wedi bod yn aelod o unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol.2

Mae'r cyfnod perthnasol yn golygu cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar y diwrnod y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad.3

Os ydych chi wedi bod yn aelod o un neu ragor o bleidiau gwleidyddol cofrestredig o fewn y cyfnod perthnasol, rhaid i chi gynnwys y canlynol ar y datganiad:4

  • enw(au) y blaid wleidyddol gofrestredig/pleidiau gwleidyddol cofrestredig rydych chi wedi bod yn aelod ohoni/ohonynt
  • y dyddiadau yn ystod y cyfnod perthnasol roeddech chi’n aelod o unrhyw blaid/bleidiau gwleidyddol  

Mae’n drosedd peidio â chynnwys datganiad o aelodaeth plaid yn fwriadol gyda’ch papur cydsynio ag enwebiad.5

Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y datganiad o aelodaeth plaid yn cael ei chynnwys ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd ac fe’i cyhoeddir gan y Swyddog Canlyniadau. 
5

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026