| Argraffu'r canllawiau llawn

Y ffurflen enwebu

Rhaid cwblhau'r ffurflen enwebu yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Rhaid i’r ffurflen enwebu gynnwys: 

Eich enw llawn1

  • Mae hyn yn golygu eich cyfenw yn gyntaf a'ch enwau eraill yn llawn.  
  • Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu.
  • Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Gynghorydd fel rhan o'ch enw.

Mae’r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ei ddefnyddio fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai eich enw go iawn yw Joseph Smith, ond eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, yna cewch ddefnyddio’r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.

Disgrifiad

Os ydych chi am i’r gair ‘Annibynnol’ a/neu ‘Independent’ ymddangos ar y papur pleidleisio o dan eich enw, mae angen i chi nodi hyn ar y ffurflen enwebu. Ni chaniateir unrhyw ddisgrifiadau eraill.2

Fel arall, gallwch ddewis peidio â chael disgrifiad o gwbl drwy adael y rhan hon o’r ffurflen yn wag.

Llofnod un llofnodwr

Gallwch weithredu fel eich llofnodwr eich hun neu ofyn i rywun arall lofnodi eich enwebiad. Os nad ydych chi’n llofnodi eich enwebiad eich hun, bydd angen i’r person sy’n llofnodi roi ei enw llawn a’i gyfeiriad, nid oes angen i’r cyfeiriad hwn fod yn yr etholaeth.3

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026