| Argraffu'r canllawiau llawn

Ffurflen cyfeiriad cartref

Rhaid cynnwys ffurflen cyfeiriad cartref gyda'ch papur enwebu. 1

Rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen fel y rhagnodir yn y ddeddfwriaeth (neu ffurflen debyg).2

Rhaid i’r ffurflen cyfeiriad cartref ddatgan: 3

  • eich enw llawn
  • unrhyw enwau a ddefnyddir yn gyffredin, os yw’r rhain wedi eu cynnwys ar eich ffurflen enwebu
  • eich cyfeiriad cartref yn llawn

Eich cyfeiriad cartref:

  • ni ddylai gynnwys talfyriadau
  • rhaid iddo fod yn gyfeiriad cartref presennol i chi
  • ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni bai eich bod yn rhedeg busnes o’ch cartref)

Nid oes angen i’ch cyfeiriad cartref fod yn etholaeth y Senedd rydych yn bwriadu sefyll ynddi.

Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref

Gallwch ddewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref ar y datganiad ynghylch pleidiau a phersonau a enwebwyd.

Yn yr achos hwn, yn ogystal â’ch enw llawn a’ch cyfeiriad cartref yn llawn, rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:4

  • datganiad, wedi'i lofnodi gennych, sy'n datgan nad ydych am i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi
  • os yw eich cyfeiriad cartref yng Nghymru, enw etholaeth y Senedd, neu os yw eich cyfeiriad cartref yn rhywle arall yn y DU, enw etholaeth Seneddol y DU
  • os yw cyfeiriad eich cartref y tu allan i’r DU, enw’r wlad y mae eich cyfeiriad cartref wedi'i leoli ynddi
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026