| Argraffu'r canllawiau llawn

Cydsynio ag enwebiad

Rhaid i chi hefyd gydsynio’n ffurfiol â’ch enwebiad yn ysgrifenedig.1
 
Gellir cyflwyno’r cydsyniad ag enwebiad i’r Swyddog Canlyniadau wyneb yn wyneb, neu drwy’r trefniadau fel y nodir yn y datganiad cyflwyno electronig.2

Mae cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi ei bennu yn ôl y gyfraith.3

Rhaid i chi nodi’r canlynol ar y ffurflen cydsynio ag enwebiad:4

  • eich dyddiad geni
  • cyfeiriad sydd yn yr ardal berthnasol,5 ystyrir hwn fel eich cyfeiriad swyddfa os byddwch yn dod yn asiant etholiad arnoch eich hun o ganlyniad i fethu â phenodi rhywun arall. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar asiantiaid etholiad
  • enw’r ardal awdurdod lleol yng Nghymru lle rydych wedi’ch cofrestru’n etholwr llywodraeth leol
  • datganiad nad ydych wedi eich anghymwyso hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred
  • datganiad nad ydych yn ymgeisydd unigol sy’n sefyll yn yr un etholaeth nac unrhyw etholaeth arall, neu ymgeisydd rhestr plaid mewn unrhyw etholaeth arall

Rhaid i’ch cydsyniad ag enwebiad hefyd gynnwys datganiad o aelodaeth plaid.6

Ni chewch lofnodi’r ffurflen gydsynio yn gynharach na mis cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch papurau enwebu.7

Rhaid i ffurflen cydsynio ag enwebiad eich ymgeisydd gael ei hardystio gan dyst.8 Dylai’r tyst fod yn bresennol pan fyddwch yn llofnodi’ch datganiad. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all fod yn dyst.

Ar gyfer ffurflenni cydsynio a gyflwynir yn electronig, gallai llofnod electronig fod ar ffurf enw wedi’i deipio yn y bwlch ar gyfer llofnod er enghraifft.

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Ebrill 2026