Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Pwy sy’n gallu awdurdodi a thalu am wariant?
Mae rheolau yn eu lle i sicrhau y gellir rheoli gwariant a’i gofnodi ac adrodd amdano yn gywir.
Eich cyfrifoldeb chi yw adrodd am wariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir. Dylech sicrhau eich bod yn deall y gyfraith a bod pob gwariant yn cael ei awdurdodi, ei gofnodi a’i adrodd yn y ffordd gywir.
Pwy all ysgwyddo gwariant ymgeisydd?
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir, y bobl ganlynol yn unig sydd â chaniatâd i ysgwyddo gwariant etholiad i ymgeiswyr unigol:
- yr asiant
- yr ymgeisydd, ac
- unrhyw un a awdurdodir gan yr ymgeisydd neu’r asiant1
Drwy'r term ‘ysgwyddo’ rydym yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario’r arian. Rydych yn ysgwyddo gwariant etholiad pan rydych yn dod yn rhan o drafodiad gyda chyflenwr ac yn dod yn atebol am dalu am yr eitem, y nwyddau neu’r gwasanaeth y mae wedi ei ddarparu i chi. Er enghraifft, rydych yn prynu gwasanaeth cwmni argraffu i argraffu taflenni, neu rydych yn arwyddo cytundeb i rentu swyddfa.
Yn aml, caiff taliadau eu hysgwyddo a'u talu ar yr un pryd. Er enghraifft, os ydych yn prynu rhywbeth ar-lein neu mewn siop. Serch hynny, mae yna reoliadau ar wahân ynghylch pwy all ymrwymo’n gyfreithiol i fod yn ddyledus yn ariannol am wariant ymgeisydd a phwy a all dalu am wariant etholiad dan y gyfraith.
Os ydych chi’n rhoi awdurdod i rywun ysgwyddo gwariant ymgeisydd, rhaid i chi wneud hynny ar ffurf ysgrifenedig a nodi’n glir y swm y gall ei wario ac ar beth.2
Pwy sy’n gallu talu am wariant ymgeisydd?
Mae rheolau ar bwy all wneud taliadau yn berthnasol ar ôl ichi ddod yn ymgeisydd swyddogol. Gall ymgeisydd unigol benodi asiant etholiad, neu weithredu fel asiant etholiad arno’i hun. Mae penodi asiant etholiad yn effeithio ar bwy all wneud taliadau.
Cyn i chi benodi asiant
Yr unig eitemau (ac eithrio treuliau personol) y gall yr ymgeisydd dalu amdanynt yw’r rhai sydd wedi eu hysgwyddo, ac mae taliad yn ddyledus, cyn penodi asiant etholiad.3 Gall yr ymgeisydd ond talu hyd at £900 am dreuliau personol ar gyfer costau teithio a llety. Rhaid i’r asiant dalu am unrhyw dreuliau personol ychwanegol.4
Ar ôl i chi benodi asiant
Ar ôl ichi benodi asiant, rhaid i daliadau am y rhan fwyaf o wariant ymgeisydd gael eu gwneud gan neu drwy’r asiant.5 Yn ogystal â threuliau personol, mae tri eithriad:
- gall yr asiant roi awdurdod ysgrifenedig i rywun dalu am fân dreuliau fel offer ysgrifennu neu gost postio. Mae’n rhaid i’r awdurdod gynnwys cost y taliad.6
- gall pobl wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth. Gall yr asiant roi awdurdod ysgrifenedig i rywun ysgwyddo a thalu am wariant ar ran yr ymgeisydd fel nad yw’n cyfrif tuag at y terfyn £1,000 hwn (gweler Awdurdodi eraill i ysgwyddo gwariant).7
- gall yr ymgeisydd wneud taliadau am anfonebau y mae wedi cael gorchymyn llys i’w talu, gan fod y terfyn amser cyfreithiol i wneud y taliad wedi mynd heibio
Os gwneir unrhyw daliadau gan unrhyw un ar wahân i’r ymgeisydd, yr asiant neu’r is-asiant - er enghraifft gan berson a awdurdodir yn ysgrifenedig i ysgwyddo gwariant (ac nid yw’n cael ei ad-dalu gan yr asiant), yna bydd hwn yn rhodd i’r ymgeisydd os yw dros £500.8 Gweler Rhoddion i ymgeiswyr unigol am ragor o wybodaeth am roddion.
Dylech sicrhau bod eich gwirfoddolwyr a’ch ymgyrchwyr yn ymwybodol o’r gyfraith ac yn gwybod pwy all a phwy na all ysgwyddo neu dalu costau.
Crynhoir y rheolau gwariant yn y tabl canlynol:
| Pryd ysgwyddwyd y taliad? | Pwy all ysgwyddo? | Pwy all dalu? |
|---|---|---|
| Yn ystod y cyfnod a reoleiddir cyn i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd | Yr ymgeisydd, yr asiant, neu’r bobl y maent wedi eu hawdurdodi yn ysgrifenedig yn unig | Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy all dalu am wariant ymgeisydd cyn i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd |
| Ar ôl i’r unigolyn ddod yn ymgeisydd | Yr ymgeisydd, yr asiant, neu’r bobl y maent wedi eu hawdurdodi yn ysgrifenedig yn unig | Yr asiant neu drwy’r asiant yn unig y gellir gwneud taliadau, ac eithrio:
|
- 1. Erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 45(5) ac erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 45(3) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 45(2) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 44(1) a (4) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 44(4)(b) ac erthygl 45(5) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 44(4)(d) ac erthygl 47 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, paragraff 2(1)(c) a pharagraff 4(2) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8