| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa fath o wariant yw ef? Enghreifftiau

Ar gyfer pob gweithgaredd yr ydych chi wedi ei bennu yn wariant ymgeisydd, rhaid ichi gofio cyfrifo pa fath o wariant yw ef, fel eich bod yn gwybod sut i adrodd amdano:

Os yw eitem neu wasanaeth yn cael ei ddarparu ac yn cael ei ddefnyddio gan yr ymgeisydd, neu ar ei ran, yna mae cyfran berthnasol y gost o dargedu ardal etholaethol yr ymgeisydd yn debygol o gyfrif fel gwariant tybiannol, os yw’n bodloni’r profion.

Os na ysgwyddir y gwariant gan yr ymgeisydd neu’r asiant ac nad yw’n cael ei ddarparu a’i ddefnyddio gan yr ymgeisydd, neu ar ei ran, bydd yn cyfrif fel ymgyrchu lleol i’r ymgeisydd.

Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos yn gyntaf sut i bennu a yw gwariant yn hyrwyddo’r ymgeisydd, ac yna pennu sut dylid adrodd amdano.

Enghraifft A

Mae grŵp ymgyrchu yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae arweinydd y grŵp yn rhoi araith. Yn yr anerchiad, mae’r arweinydd yn siarad am bolisïau cenedlaethol am ran helaeth o’r amser ond mae’n treulio deng munud yn siarad yn benodol ynghylch yr ardal etholaethol a’r ymgeisydd. Rhoddir gwahoddid i’r ymgeisydd fod yn bresennol ac mae’n gwneud hynny. Nid yw’n chwarae unrhyw ran arall yn y digwyddiad.

Gan fod yr ymgeisydd a’r ardal etholaethol yn cael eu henwi, mae’r rhan honno o’r digwyddiad yn cyfrif fel hyrwyddo’r ymgeisydd.

Nid oes unrhyw beth wedi cael ei ddarparu i’r ymgeisydd iddo ei ddefnyddio, felly nid gwariant tybiannol yw hyn. Yn hytrach, mae’r grŵp yn ymgyrchu dros yr ymgeisydd.

Mae’r gwariant ar y gyfran o’r digwyddiad sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn ymgyrchu lleol dros yr ymgeisydd. Ni ddylai’r grŵp ysgwyddo treuliau sy’n fwy na £1,000 wrth hyrwyddo’r ymgeisydd, oni bai bod ganddo ganiatâd ysgrifenedig yr asiant i wneud.1

Enghraifft B

Mae grŵp ymgyrchu yn cynnal digwyddiad yn ardal etholiadol yr ymgeisydd. Mae’r grŵp yn gwahodd yr ymgeisydd i roi ei araith ei hun am ddeng munud o’r amser. Mae’r ymgeisydd yn derbyn ac yn cyflwyno’r araith.

Drwy ymddangos ar y llwyfan, mae’r ymgeisydd yn cael ei adnabod. Felly, mae’r rhan honno o’r digwyddiad yn cyfrif fel hyrwyddo’r ymgeisydd.

Mae’r grŵp wedi darparu’r ymgeisydd gyda chyfleuster - slot yn ei ddigwyddiad - ac mae’r ymgeisydd wedi gwneud defnydd ohono drwy roi’r araith.

Mae hyn yn wariant tybiannol. Mae’n rhaid i’r gwerth priodol gael ei gofnodi ar ffurflen wariant yr ymgeisydd a, lle mae’n berthnasol, fel rhodd gan y grŵp.

Enghraifft C

Mae’r ymgeisydd yn cynnal digwyddiad yn ei ardal etholaethol, wedi’i drefnu gan ei asiant. Mae grŵp ymgyrchu yn rhoi arian i dalu costau’r digwyddiad.

Mae’r ymgeisydd yn cymryd rhan ganolog yn y digwyddiad, felly mae hwn yn wariant sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd. Mae’r gwariant wedi’i ysgwyddo gan yr asiant, felly mae hyn yn wariant ymgeisydd arferol ac mae’n rhaid iddo ymddangos ar y ffurflen.

Mae unrhyw rodd ariannol sydd dros £500 a ddarperir gan y grŵp yn rhodd i’r ymgeisydd ac mae’n rhaid adrodd amdano yn yr adran rhoddion yn y ffurflen.2  Gweler Rhoddion ymgeiswyr am ragor ynghylch adrodd am roddion.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025