Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Eitemau a dderbynnir am ddim neu ar bris gostyngol a 'gwariant tybiannol’
Weithiau, efallai y byddwch am ddefnyddio rhywbeth yn eich ymgyrch na fu’n rhaid i chi wario arian arno, am ei fod wedi cael ei roi i chi fel rhodd mewn da, am ddim neu am bris gostyngol.
Mae rhai enghreifftiau o rodd mewn da yn cynnwys:
- lle mewn neuadd ar gyfer digwyddiad
- taflenni
- darparu bwyd a thrafnidiaeth i wirfoddolwyr
Pan fyddwch yn defnyddio rhywbeth a ddarparwyd i chi fel rhodd mewn da, bydd gwerth llawn yr hyn y gwnaethoch ei ddefnyddio yn cyfrif tuag at eich terfyn gwariant a rhaid adrodd amdano.1
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Rhoddion mewn da a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
Dan y gyfraith, defnyddir dau derm gwahanol wrth asesu gwerth y rhoddion mewn da hyn.
Caiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i'r ymgeisydd pan roddir perchnogaeth i'r ymgeisydd. Er enghraifft, mae rhywun yn rhoi papur i’r ymgeisydd argraffu taflenni.
Pan gaiff eitemau neu nwyddau eu trosglwyddo i’r ymgeisydd am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%, rhaid i’r rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘gwerth marchnadol’.2 Mae’r gwerth marchnadol yn golygu’r pris y gellid disgwyl yn rhesymol ei dalu am yr eitem neu’r nwyddau pe bai/baent ar werth ar y farchnad agored.3
I’r gwrthwyneb, mae eitemau, nwyddau neu wasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer defnydd neu fudd yr ymgeisydd os ydynt yn cael eu gwneud ar gael ar gyfer defnydd yr ymgeisydd, ond nid oes newid mewn perchnogaeth. Er enghraifft, darperir man swyddfa ar gyfer eich defnydd yn ystod yr ymgyrch.
Yn hytrach, caiff eitem, nwyddau neu wasanaeth eu darparu ar gyfer defnydd neu fudd yr ymgeisydd am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%. Rhaid i ddarpariaeth y rhain gael eu prisio yn ôl eu ‘cyfradd fasnachol’.4 Nid oes unrhyw ddiffiniad penodol i gyfradd fasnachol dan y gyfraith, ond gall hyn olygu’r cyfraddau cyfartalog ar gyfer yr eitem, nwyddau neu wasanaeth a gynigir gan ddarparwyr masnachol.
Yn y canllawiau hyn, rydym yn defnyddio’r term ‘gwerth masnachol’ fel term cyffredinol ar gyfer gwerth marchnadol a chyfradd fasnachol.
Beth sy’n cyfrif fel gwariant tybiannol?
Mae’n rhaid bodloni pum prawf er mwyn i eitem gyfrif fel gwariant tybiannol
- caiff ei throsglwyddo i chi neu ei darparu i chi ar gyfer eich defnydd neu’ch budd
- caiff ei throsglwyddo neu ei darparu am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10%5
- mae’r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng gwerth masnachol yr hyn a ddarperir a’r hyn a dalwch dros £506
- rydych yn ei defnyddio yn eich ymgyrch (neu mae rhywun yn ei defnyddio ar eich rhan)7
- byddai wedi bod yn wariant ymgeisydd pe byddech chi wedi ysgwyddo’r gwariant.8 Gweler Pa weithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd? am wybodaeth ynghylch y categorïau o wariant ymgeisydd
Mae’r tudalennau canlynol yn darparu rhagor o wybodaeth ac enghreifftiau sy’n rhoi manylion am y profion hyn.
- 1. Erthygl 66(4) a (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 66(1)(a)(i), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 66(7), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 66(1)(a)(ii), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 66(1)(a), Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl 66(3), (4) & (5) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Erthygl 66(1)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8