| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth nad yw’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd?

  • talu eich ernes etholiad1
  • unrhyw beth (ac eithrio hysbysebion) sy’n ymddangos mewn papur newydd, cylchgrawn neu ar sianel ddarlledu drwyddedig2
  • cyfleusterau a ddefnyddiwch chi oherwydd bod gennych yr hawl i’w defnyddio fel ymgeisydd, megis ystafell gyhoeddus ar gyfer cyfarfod a chostau postio’r anerchiadau etholiadol sydd am ddim3
  • amser gwirfoddolwyr, gan gynnwys amser eich staff nad ydych yn eu talu amdano4
  • defnyddio prif breswylfa rhywun, sy’n cael ei darparu am ddim5
  • defnyddio cerbyd personol rhywun neu ddull cludiant arall, sydd wedi ei gaffael yn bennaf ar gyfer defnydd personol y person hwnnw ac mae’n cael ei ddarparu am ddim6
  • defnyddio offer cyfrifiadura neu beiriant argraffu rhywun sydd wedi ei gaffael yn bennaf ar gyfer defnydd personol y person hwnnw ac mae’n cael ei ddarparu am ddim7
  • costau y mae’n rhesymol i’w priodoli i anabledd yr ymgeisydd8
  • cymorth ariannol a ddarperir gan y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru i gefnogi ymgeiswyr anabl9
  • costau o ran cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg neu’r ffordd arall10
  • treuliau rhesymol sy’n gysylltiedig ag amddiffyn pobl neu eiddo, er enghraifft llogi cwmni diogelwch, defnyddio Bwlch Post i osgoi cyhoeddi cyfeiriad cartref neu swyddfa ar argraffnodau, neu brynu meddalwedd gwrth-firws i amddiffyn cyfrifiaduron yr ymgyrch11
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025