| Argraffu'r canllawiau llawn

Treuliau personol

Mae treuliau personol yn cynnwys treuliau byw a theithio rhesymol yr ymgeisydd at ddibenion yr etholiad ac mewn perthynas â’r etholiad.1  Nid yw treuliau personol yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant, ond mae’n rhaid i chi adrodd amdanynt yn eich ffurflen wariant.2

Mae treuliau personol yn adroddadwy drwy gydol y cyfnod a reoleiddir. Pan mae’r unigolyn yn ymgeisydd swyddogol, gall yr ymgeisydd dalu hyd at £900 yn unig o gyfanswm treuliau personol. Mae’n rhaid i’r asiant dalu unrhyw symiau sydd y tu hwnt i’r swm hwn.3  Nid oes terfyn ar faint y gall ymgeiswyr ei dalu am dreuliau personol cyn iddynt ddod yn ymgeisydd yn swyddogol.

Gall treuliau personol gynnwys:

  • trafnidiaeth gyhoeddus neu dâl am deithiau tacsi
  • prynu tanwydd ar gyfer cerbyd neu wefru cerbyd trydan
  • llogi car os nad yw’r ymgeisydd eisoes yn berchen ar gar, neu os nad yw ei gar yn addas ar gyfer ymgyrchu
  • aros mewn gwesty

Ar gyfer rhai treuliau personol, bydd angen ichi amcangyfrif y gyfran o’ch costau y gellir eu priodoli i’r etholiad. Er enghraifft, os ydych chi’n berchen ar gar, bydd peth o’r costau tanwydd neu wefru yn ystod cyfnod yr etholiad yn debygol o fod at ddibenion eraill. Dylech wneud asesiad gonest a rhesymol o’r costau hyn. 

Ar gyfer gwefru cerbydau trydan at ddiben domestig, lle nad oes unrhyw anfoneb benodol ar gyfer gwefru, gallwch amcangyfrif y gost drwy:

  • gymharu capasiti batri’r cerbyd gyda’ch cost am bob uned o drydan, ac adrodd amcangyfrif o sawl gwefriad llawn y gellir ei briodoli i’r etholiad, neu
  • gymharu milltiroedd eich cerbyd fesul uned o drydan i’ch cost fesul uned o drydan, ac adrodd amcangyfrif o filltiroedd y gellir eu priodoli i’r etholiad

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu datganiad ysgrifenedig o’u treuliau personol i’w hasiant ymhen 21 diwrnod ar ôl datgan y canlyniad.4

Os caiff treuliau personol eu rhoi i’r ymgeisydd am ddim, neu ar ostyngiad anfasnachol o fwy na 10% ac mae’r gwahaniaeth yn y gwerth y mae’r ymgeisydd yn ei dalu yn fwy na £50, bydd hefyd yn cael ei adrodd fel gwariant tybiannol. Gweler gwariant tybiannol am ragor o wybodaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Rhagfyr 2025