Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid yn etholiadau'r Senedd
Awdurdodi eraill i ysgwyddo gwariant
Mewn rhai achosion, mae pobl yn gwario arian er mwyn hyrwyddo ymgeisydd heb ddarparu neu drosglwyddo rhywbeth at ddefnydd yr ymgeisydd neu er budd iddo yn ystod yr ymgyrch. Yn yr un modd, gall pobl wario arian i feirniadu ymgeisydd neu i annog pleidleiswyr i beidio â’u cefnogi. Galwn hyn yn ymgyrchu lleol.
Mae sefydliadau neu unigolion, nad ydynt yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr etholiadau, sy’n ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol yn yr etholaeth yn cael eu hadnabod fel ‘ymgyrchwyr di-blaid lleol’. Mae hyn yn cynnwys pan fyddwch yn ymgyrchu yn erbyn plaid wleidyddol neu ymgeisydd rhestr plaid er budd ymgeisydd unigol.1
Os yw eich ymgyrch yn cynnwys ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr unigol mewn etholaeth, a phleidiau, ymgeiswyr rhestr plaid neu gategorïau o ymgeiswyr, gall y rheolau sy’n berthnasol yn yr amgylchiadau hyn fod yn gymhleth. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â ni am gyngor pwrpasol.
Yn ystod y cyfnod a reoleiddir gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau lleol wario hyd at £1,000 ar ymgyrchu dros neu yn erbyn un neu ragor o ymgeiswyr unigol mewn etholaeth.2 Mae hwn yn cael ei adnabod fel swm a ganiateir.
Ni all ymgyrchydd di-blaid lleol wario mwy na’r swm hwn a ganiateir heb ganiatâd ysgrifenedig yr ymgeisydd neu’r asiant i ysgwyddo’r gwariant ychwanegol, a fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgeisydd.3
Er enghraifft, mae grŵp ymgyrch yn anfon taflenni sy’n hyrwyddo’r ymgeisydd yn uniongyrchol at bleidleiswyr. Mae’n rhoi gwybod i’r ymgeisydd ymlaen llaw ei fod yn bwriadu gwneud hynny.
Yn yr enghraifft hon, nid yw wedi darparu unrhyw beth i’r ymgeisydd - yr unig beth y mae wedi ei wneud yw dweud wrth yr ymgeisydd am yr hyn mae yn ei wneud. Mae wedi ymgyrchu dros yr ymgeisydd ar ei liwt ei hun.
Er y gall yr ymgeisydd elwa ar y taflenni, nid yw’r grŵp wedi rhoi rhywbeth i’r ymgeisydd y gall yr ymgeisydd wedyn benderfynu a yw am ei ddefnyddio a sut i’w ddefnyddio.
Ni all y grŵp wario dros y swm hwn a ganiateir heb ganiatâd ysgrifenedig yr asiant.
Os yw ymgyrchydd di-blaid lleol yn ysgwyddo gwariant sydd tu hwnt i’r swm a ganiateir, yna mae’n rhaid iddo adrodd am y gwariant ychwanegol hwn i'r Swyddog Canlyniadau ymhen 21 diwrnod ar ôl datgan y canlyniad.4 Mae yna ffurflen a datganiad ar wahân y mae’n rhaid eu llenwi er mwyn i’r ymgyrchydd di-blaid lleol adrodd am dreuliau awdurdodedig.
Mae’n rhaid i’r treuliau awdurdodedig hefyd gael eu cynnwys ar ffurflen gwariant yr ymgeisydd.5 Mae arian a ysgwyddir gan ymgyrchwyr mewn ymgyrchoedd lleol sydd wedi’i awdurdodi gan yr asiant yn wariant ymgeisydd ac mae’n cyfrif tuag at y terfyn gwariant.6
Gall y treuliau awdurdodedig hefyd gael eu talu gan y person sydd ag awdurdod i’w hysgwyddo.7 Os yw’n gwneud y taliadau, ac mae’r gwariant dros £500, yna bydd hyn yn rhodd i’r ymgeisydd. Os ydych yn derbyn rhodd ar ôl ichi ddod yn ymgeisydd swyddogol, mae’n rhaid adrodd amdani ar wahân yn yr adran rhoddion o’r ffurflen wariant.8 Gweler Ysgwyddo a thalu am wariant ymgeisydd a Rhoddion i ymgeiswyr unigol am ragor o wybodaeth.
Dylai ymgyrchwyr di-blaid sy’n trefnu ymgyrch lleol ddarllen ein canllawiau i ymgyrchwyr di-blaid lleol.
- 1. Erthygl 47(2)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Erthygl 47(5)(b) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Erthygl 47(1) , Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Erthygl 47(6) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Erthygl 54(2)(c) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Erthygl. 65 ac erthygl 48 Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Erthygl 44(4)(d) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 6, paragraff 1(3), paragraff 2(1)(c), paragraff 4(2) a pharagraff 10(1) Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 8