| Argraffu'r canllawiau llawn

Adrodd am eich gwariant

Ar ôl yr etholiad, mae’n rhaid i’r asiant etholiad fodloni’r dyddiadau ar gyfer:

  • derbyn a thalu anfonebau
  • anfon ffurflen yr ymgeisydd at y Swyddog Canlyniadau

Rhaid i’r asiant a’r ymgeisydd gyflwyno datganiadau i ddweud bod y ffurflen yn gyflawn ac yn gywir.1  Os yw’r ymgeisydd yn gweithredu fel asiant arno’i hun, datganiad ymgeisydd yn unig sydd angen iddo’i gyflwyno.

Hyd yn oed os nad ydych wedi gwario unrhyw arian, mae’n rhaid ichi gyflwyno’r ffurflen a’r datganiadau.2  Gelwir hon yn ‘ffurflen nil’.

Gallwch ddod o hyd i’r dyddiadau hyn, a rhagor o wybodaeth am adrodd, yn Ar ôl yr etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Hydref 2025