| Argraffu'r canllawiau llawn

Pa gofnodion y mae’n rhaid i chi eu cadw?

Dylech sicrhau bod system yn ei lle i gadw cofnod o’ch holl wariant ymgeisydd fel bod modd ichi adrodd amdano ar ôl yr etholiad. Mae asiantiaid etholiad yn gyfrifol am adrodd am wariant ar ôl yr etholiad.

Yr hyn sydd angen i chi ei gofnodi

Am bob eitem o wariant, dylech gofnodi’r wybodaeth ganlynol i’w chynnwys yn eich ffurflen wariant ar ôl yr etholiad:

  • ar gyfer beth oedd y gwariant - er enghraifft, taflenni neu hysbysebu
  • enw a chyfeiriad y cyflenwr
  • y swm neu’r gwerth
  • y dyddiad y cafodd yr arian ei wario gennych

Rhaid ichi gadw anfonebau neu dderbynebau am unrhyw daliadau sy’n £20 neu fwy.1

Os ydych chi wedi talu TAW ar eitem, rhaid i chi gynnwys hwn wrth adrodd am gostau’r eitem yn eich ffurflen. Rhaid i chi gynnwys TAW hyd yn oed os gellir ei adennill fel traul busnes.

Efallai na fydd anfonebau ar gyfer taliadau a wnaed i gwmnïau tramor yn cynnwys TAW bob amser. Os ydych chi wedi talu TAW, dylech gynnwys hwn fel rhan o gost yr eitem wrth adrodd, hyd yn oed os nad yw TAW wedi’i gynnwys ar yr anfoneb.

Efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol i’r asiant gadw copïau o bob enghraifft o ddeunydd ymgyrch a ddefnyddiwyd (fel llythyrau neu daflenni) rhag ofn y bydd angen cyfeirio yn ôl atynt.

Rhaid ichi hefyd gofnodi manylion am wariant pan:

  • fyddwch yn gwneud defnydd o eitemau sydd wedi’u rhoi ichi
  • pan fyddwch yn rhoi awdurdod i rywun arall ysgwyddo gwariant

Gweler adrannau ar wariant tybiannol ac ymgyrchu lleol am ragor o fanylion.

Am fanylion am y wybodaeth sy’n ofynnol yn y ffurflen wariant, gweler Llenwi eich ffurflen.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026