| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth yw gwariant ymgeisydd?

Gwariant ymgeisydd yw gwariant ar weithgareddau a ddefnyddiwch i hyrwyddo’ch ymgeisyddiaeth, neu feirniadu ymgeiswyr eraill, yn ystod y cyfnod a reoleiddir.1  Mae hyn yn cynnwys:

  • gwariant a ysgwyddir gan yr ymgeisydd neu’r asiant
  • eitemau neu wasanaethau a brynwyd cyn y cyfnod a reoleiddir yr ydych yn eu defnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir2
  • gwariant tybiannol, pan mae rhywbeth yn cael ei roi i chi a’i ddefnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir
  • ymgyrchu lleol, pan fyddwch yn rhoi awdurdod i rywun ar wahân i’r ymgeisydd neu’r asiant i ysgwyddo gwariant

Iddo fod yn wariant ymgeisydd, rhaid iddo:

  • fod yn weithgaredd ar y rhestr o fathau o wariant etholiad
  • hyrwyddo’r ymgeisydd3

Beth yw gwario i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth?

Os anelir gweithgaredd at bleidleiswyr yn eich etholaeth i hyrwyddo neu ddiogelu eich ymgeisyddiaeth, yna mae’n wariant i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth. Rhaid adrodd am y gwariant hwn.

Pan fyddwch yn defnyddio eitem o wariant at ddibenion eich ymgyrch yn llwyr, dylech adrodd am yr holl gostau yn eich ffurflen.

Mewn rhai achosion, ni fydd yr holl wariant ar eitem yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo eich ymgeisyddiaeth. Er enghraifft, pan:

  • ddefnyddir rhai o’r eitemau neu wasanaethau yn unig i’ch hyrwyddo yn ystod y cyfnod a reoleiddir
  • fyddwch yn rhannu eitemau neu wasanaethau gydag ymgeisydd arall

Yn yr achosion hyn, dim ond cyfran o’r costau sydd angen adrodd amdanynt.

Gweler Rhannu gwariant y dylid adrodd amdano ac na ddylid adrodd amdano am ganllawiau ac enghreifftiau manwl o rannu’r costau hyn.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mawrth 2026