Rhannu gwariant yr adroddir amdano a gwariant nas adroddir amdano
Weithiau, mae’n bosibl y byddwch angen rhannu eich costau rhwng gweithgareddau sy’n cyfrif fel gwariant ymgeisydd a’r rhai nad ydynt yn cyfrif.
Er enghraifft, rhwng:
eitemau a ddefnyddir cyn ac yn ystod y cyfnod a reolir
eich gwariant ymgeisydd a gweithgareddau nas reolir, megis swyddfa rydych chi’n ei rhannu gyda rhywun arall
Ym mhob achos, dylech wneud asesiad gonest, yn seiliedig ar y ffeithiau, o gyfran y gwariant y gellir ei phriodoli’n deg i’ch gwariant ymgeisydd. Dylech ond adrodd am y gwariant a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir ac a ystyrir ei fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion eich ymgyrch.
Yn yr achosion hyn, dylech ystyried y ffordd orau o wneud asesiad gonest o’r wybodaeth sydd gennych. Er enghraifft, os ydych chi’n rhannu swyddfa, efallai y bydd y bil ffôn yn darparu manylion am gostau galwadau sydd dros werth penodol yn unig. Dylech felly gymharu’r bil gydag un nad yw’n cynnwys y cyfnod a reoleiddir.
Chi sy’n gyfrifol am adrodd am eich gwariant ymgeisydd yn llawn ac yn gywir. Dylech sicrhau eich bod yn deall y rheolau a bod pob gwariant yn cael ei awdurdodi, ei gofnodi a’i adrodd yn y ffordd gywir.
Wedi’r etholiad, bydd angen ichi lofnodi datganiad i ddatgan ei fod yn gyflawn ac yn gywir hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred.1
Mae’n drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol.2
Os ydych yn parhau’n ansicr, ffoniwch ni neu e-bostiwch ni am gyngor.