Pryd a sut y dylwn gysylltu â'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3?

Bydd angen i chi gysylltu â'r unigolion hynny a all fod yn addas i weithredu fel yr unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3, yn eich barn chi. Dylech gysylltu'n gychwynnol â nhw cyn gynted â phosibl yng ngham cynllunio eich canfasiad; dim ond ar ôl i chi nodi a chadarnhau unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo y gallwch ei neilltuo i Lwybr 3.
 
Gan nad oes unrhyw ddulliau cysylltu rhagnodedig o dan Lwybr 3, bydd angen i chi ystyried y ffordd fwyaf priodol o gysylltu'n gychwynnol â'r unigolion hyn. 

Diben cysylltu ar yr adeg hon yw:

  • cadarnhau a all yr unigolyn a nodwyd weithredu fel yr unigolyn cyfrifol1   
  • esbonio rôl a chyfrifoldeb unigolyn cyfrifol
  • cyfleu eich hawl statudol i ofyn i unigolyn cyfrifol ddarparu gwybodaeth am y preswylwyr mewn eiddo 
  • rhoi gwybod i'r unigolyn cyfrifol ei bod yn ofynnol iddo ymateb i'ch cais 
  • cadarnhau'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir yn y dyfodol
  • nodi unrhyw unigolyn amgen fel unigolyn cyfrifol ar gyfer yr eiddo os na all yr unigolyn rydych wedi cysylltu ag ef gydymffurfio â'ch cais

Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'r camau a gymerwyd gennych i gysylltu â'r unigolion hyn a chadarnhau y gallant ddarparu'r wybodaeth sy'n ofynnol gan y canfasiad i chi. 

Bydd hefyd angen i chi ystyried y dull cyfathrebu gorau ar gyfer eiddo Llwybr 3, yn seiliedig ar y math o eiddo a'r wybodaeth gyswllt sydd gennych ar gyfer yr unigolyn cyfrifol. 

Er y bydd angen i chi nodi'r unigolyn cyfrifol ar gyfer eiddo Llwybr 3 ar gam cynnar yn eich gwaith cynllunio a chysylltu'n gychwynnol ag ef, efallai y byddwch yn penderfynu canfasio eiddo gwahanol o dan Lwybr 3 ar adegau gwahanol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn penderfynu gofyn i'r unigolyn cyfrifol ar gyfer llety myfyrwyr am y wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad ychydig cyn i'r tymor ddechrau, yn hytrach nag ar gam cynharach yn eich canfasiad. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021