Pa eiddo y gellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3?

Diffinnir yr eiddo hwnnw y gellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3 (y llwybr eiddo diffiniedig) mewn deddfwriaeth fel:1  

  • Cartrefi gofal preswyl cofrestredig
  • Tai amlfeddiannaeth
  • Llety myfyrwyr: er enghraifft, neuadd breswyl myfyrwyr
  • Hosteli

Er mwyn iddo gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3, mae'n rhaid i eiddo fod yn eiddo lle mae pobl nad ydynt, gyda'i gilydd, yn ffurfio un aelwyd, yn byw2 neu'n eiddo lle rydych wedi ceisio dosbarthu dogfen yn ystod y 18 mis blaenorol ond nad ydych wedi llwyddo i wneud hynny.3  

At hynny, er mwyn neilltuo eiddo i Lwybr 3, mae'n rhaid i chi gredu eich bod yn fwy tebygol o gael ymateb gan ddefnyddio Llwybr 3 na thrwy lwybr canfasio amgen,4 ac mae'n rhaid i chi fod wedi gallu nodi unigolyn cyfrifol i ddarparu'r wybodaeth sydd ei hangen ar gyfer y canfasiad. 

Gallai cael gafael ar gofnodion awdurdodau lleol eraill neu adolygu gwybodaeth o'r canfasiad blaenorol eich helpu i nodi eiddo arall yn eich cronfa ddata a all fodloni'r meini prawf er mwyn iddo gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3.

Bydd angen i chi fod yn fodlon bod y meini prawf a nodir yn y ddeddfwriaeth yn cael eu bodloni ar gyfer unrhyw eiddo arall y dewiswch ei ganfasio o dan Lwybr 3.

Pa eiddo na ellir ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3? 

Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu'n benodol na ellir defnyddio Llwybr 3 ar gyfer blociau cyffredin o fflatiau,5 y dylai fod yn bosibl eu canfasio'n effeithiol gan ddefnyddio Llwybr 1 neu Lwybr 2 fel y bo'n briodol yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymarfer paru data.

At hynny, os bydd gwybodaeth sydd gennych yn dangos mai dim ond pobl o dan 18 oed sy'n meddiannu'r eiddo, ni allwch ddefnyddio Llwybr 3 i ganfasio'r eiddo: mewn achosion o'r fath, mae'n rhaid i chi ddefnyddio Llwybr 2 – sef y llwybr eiddo heb ei baru.6

Hefyd, nid yw eiddo lle mae'r holl unigolion cofrestredig yn gategori o etholwr y mae'n rhaid ei eithrio o'r cam paru data cenedlaethol, megis etholwyr dienw, yn gymwys i gael ei ganfasio gan ddefnyddio Llwybr 3. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021