Guidance for the GLRO administering the GLA elections

Ceisiadau am arwyddlun plaid

Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at dri arwyddlun hefyd.

Gall ymgeisydd plaid gofrestredig ddewis cael arwyddlun cofrestredig y blaid y mae'n ei chynrychioli ar y papur pleidleisio.

Rhaid i'r ymgeisydd (neu rywun sy'n gweithredu ar ei ran), nid yr asiant etholiadol na'r Swyddog Enwebu (oni bai eu bo yn gweithredu ar ran yr ymgeisydd) wneud y cais yn ysgrifenedig. Rhaid i'r cais hwn ddod i law erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.

Er mwyn bod yn gymwys, mae'n rhaid bod ymgeisydd wedi'i awdurdodi i ddefnyddio enw plaid neu ddisgrifiad heblaw am 'Annibynnol' (yng Nghymru) neu 'Independent'.1

Gall ymgeisydd hefyd ddewis defnyddio arwyddlun ei blaid heb ddewis defnyddio disgrifiad awdurdodedig. Byddai angen iddo ddarparu'r dystysgrif awdurdodi yn ogystal â'r ffurflen cais am arwyddlun ond gall ddewis peidio â chynnwys disgrifiad awdurdodedig ar y papur enwebu. 

Os oes gan y blaid fwy nag un arwyddlun cofrestredig, dylai'r ymgeisydd nodi pa un y mae am ei ddefnyddio. Os nad yw'r ymgeisydd yn nodi arwyddlun, neu os bydd y blaid gofrestredig yn newid neu'n tynnu'r arwyddlun o'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol ar ôl i'r papurau enwebu gael eu cyflwyno ond cyn i'r cyfnod enwebu ddod i ben, dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd a gofyn iddo ddewis arwyddlun. Dylech hefyd ddweud wrtho os na fydd yn dewis arwyddlun penodol cyn i'r cyfnod enwebu ddod i ben, na fyddwch yn gallu argraffu arwyddlun wrth ymyl ei enw ar y papur pleidleisio. 

Gall yr ymgeisydd ddarparu copi eglurder uchel o'r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu papurau pleidleisio, neu gall ofyn i chi lawrlwytho'r arwyddlun o wefan y Comisiwn. Rhaid i chi sicrhau bod pa gopi bynnag a ddefnyddir ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig. 

Y cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu sy'n pennu maint mwyaf arwyddlun ar y papur pleidleisio. Wrth ychwanegu arwyddlun plaid ar bapur pleidleisio, ni ddylid newid siâp yr arwyddlun. Rhaid i chi sicrhau bod yr arwyddlun ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig - er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau yn siapiau sgwâr os nad ydynt wedi'u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, oherwydd byddai hyn yn newid eu hymddangosiad.

Gall ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran mwy nag un blaid gofrestredig sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddewis defnyddio arwyddlun cofrestredig un o'r pleidiau sydd wedi awdurdodi'r defnydd o'r disgrifiad. Nid oes darpariaeth ar gyfer cofrestru arwyddluniau ar y cyd â'r Comisiwn.

Bydd ffeil Zip o ddelweddau arwyddluniau ar gael ar ein gwefan. Fodd bynnag, er bod y ffeil Zip yn adnodd a all gael ei ddefnyddio gan eich argraffydd i baratoi papurau pleidleisio, yr wybodaeth ar  gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol a ddylai gael ei defnyddio i gadarnhau pa arwyddlun i'w argraffu ar y papurau pleidleisio.

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023