Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Enwau a ddefnyddir yn gyffredin

Pan fydd ymgeisydd yn defnyddio enw gwahanol i'w enw gwirioneddol yn gyffredin, gall ofyn am gael defnyddio ei enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin yn lle ei enw gwirioneddol.1  

Gall ymgeisydd ofyn am gael defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin. Caiff hefyd ddefnyddio blaenlythrennau fel rhan o'u henw cyffredin os cânt eu defnyddio'n gyffredin mewn perthynas â nhw.

Er enghraifft, efallai mai ‘Andy’ yw'r enw cryno a ddefnyddir ar ei gyfer, yn lle ei enw llawn cyntaf sef ‘Andrew’. Os felly, gall ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu os byddai'n well ganddo fod yr enw hwnnw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.

Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi'n glir bod enw a ddefnyddir yn gyffredin yn un sy'n wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw arall. Mae hyn yn golygu na all enw cyntaf ar ei ffurf wreiddiol gael ei ddefnyddio fel enw a ddefnyddir yn gyffredin. Felly, ni chaiff ymgeisydd ddefnyddio ei enw cyntaf na'i enw canol fel enw a ddefnyddir yn gyffredin fel mai dim ond ei enw cyntaf neu ei enw canol a'i gyfenw sy'n ymddangos ar bapur pleidleisio. Os bydd ymgeisydd yn dymuno defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin yna rhaid i'r enw(au) fod yn wahanol i'w enw gwirioneddol fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu. 

Er enghraifft, yn achos Andrew John Smith, ni allai ddefnyddio Andrew Smith fel ei enw a ddefnyddir yn gyffredin, ond gallai ddefnyddio Andy Smith (os mai Andy oedd ei enw a ddefnyddir yn gyffredin).

Gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.

Er enghraifft, yn achos Andrew Smith-Roberts, gallai ddefnyddio Andrew Roberts neu Andrew Smith (os mai un o'r rhain oedd yr enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer).

Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd deitl, gall ddefnyddio hwn fel ei enw llawn. Er enghraifft, os mai enw gwirioneddol yr ymgeisydd yw Joseph Smith, ond mai ei deitl etifeddol yw Joseph Avon, gall ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel ei enw llawn

Mae'r tabl hwn yn nodi rhestr, nad yw'n gynhwysfawr, o amrywiadau posibl:
 

Enw gwirioneddol yr ymgeisydd

Enw a ddefnyddir yn gyffredin

Yn wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw arall? 

Derbyniol?

Andrew John Smith-Jones Andrew Smith-Jones Nac ydy Nac ydy – ni ellir defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin er mwyn hepgor enw canol.
Andrew John Smith-Jones John Smith-Jones Nac ydy Nac ydy – ni ellir defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin er mwyn hepgor enw cyntaf.
Andrew John Smith-Jones Andy Smith-Jones Ydy Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer.
Andrew John Smith-Jones Johnny Smith-Jones Ydy Ydy – os mai Johnny yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer.
Andrew John Smith-Jones Andrew John Smith Ydy Ydy – gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.
Andrew John Smith-Jones Andy Jones Ydy Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.
Andrew John Smith-Jones AJ Smith-Jones Ydy Ydy – os yw AJ yn flaenlythrennau a gaiff eu defnyddio'n gyffredin ar ei gyfer 
Andrew John Smith-Jones Andrew J Smith Ydy Ydy – os mai Andrew J yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.

Nid eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu a yw'r enw cyffredin a roddwyd yn 'enw' y mae'r ymgeisydd yn ei ddefnyddio'n gyffredin nac a yw'n bodloni'r gofyniad cyfreithiol i fod yn wahanol i unrhyw enw arall a all fod ganddo. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi dderbyn beth bynnag y bydd ymgeisydd wedi'i nodi yn y blwch enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei olwg a'i dderbyn fel enw cyffredin yr ymgeisydd.

Yn ôl y gyfraith, yr unig seiliau sydd gennych dros wrthod enw a ddefnyddir yn gyffredin yw'r rhai canlynol:2

  • mae'n debygol y gall ei ddefnydd gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
  • mae'n aflan neu'n sarhaus 

Yn ystod y cam archwilio anffurfiol, os cewch eich cyflwyno â ffurflen enwebu sydd wedi'i chwblhau mewn modd sy'n ymddangos i chi nad yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin yn wahanol i unrhyw enwau cyntaf neu gyfenwau eraill sydd gan yr ymgeisydd, dylech wneud y canlynol:

  • tynnu sylw'r ymgeisydd at y diffiniad cyfreithiol o enw a ddefnyddir yn gyffredin 
  • nodi ei bod yn drosedd gwneud datganiad ffug yn fwriadol ar ffurflen enwebu 
  • nodi os na chaiff ffurflen enwebu ei chwblhau yn unol â'r gyfraith, y bydd yr ymgeisydd yn wynebu risg o gael ei herio os caiff ei ethol. 
     

Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod wedi cwblhau ei ffurflen enwebu yn unol â'r gyfraith a bod yn fodlon bod yr enw cyffredin a roddwyd yn enw a ddefnyddir yn gyffredin ganddo mewn gwirionedd. 

Wrth roi cyngor anffurfiol, efallai yr hoffech dynnu sylw'r ymgeisydd at ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024