Mae hefyd yn ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cyfeiriad cartref, y mae'n rhaid iddi gael ei chyflwyno'n bersonol gan un o'r bobl a all gyflwyno'r ffurflen enwebu ac erbyn i'r cyfnod enwebu ddod i ben. Nid yw'r ffurflen wedi'i rhagnodi ond mae'r wybodaeth sydd angen ei darparu wedi'i nodi mewn deddfwriaeth.1
Ar y ffurflen cyfeiriad cartref, rhaid i'r ymgeisydd nodi ei enw llawn a chyfeiriad ei gartref.
Cyfeiriad cartref yr ymgeisydd:
rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
ni ddylai gynnwys talfyriadau
dylai fod yn gyfeiriad cartref cyfredol yr ymgeisydd
ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fydd yr ymgeisydd yn rhedeg busnes o'i gartref)
Os bydd unrhyw ran o fanylion y cyfeiriad cartref yn anghywir neu wedi'i hepgor, ni fydd yr enwebiad yn annilys yn awtomatig os yw'r disgrifiad o'r lle yn un a ddeellir yn gyffredin.
Rydym wedi llunio ffurflen cyfeiriad cartref fel rhan o'n setiau o bapurau enwebu y gallwch eu rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid i'w defnyddio mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu neu Gomisiynwyr yr Heddlu, Tân a Throseddu.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
The referenced media source is missing and needs to be re-embedded.
Ymgeiswyr nad ydynt am i gyfeiriad eu cartref gael ei gyhoeddi
Gall ymgeisydd ofyn am beidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Yn yr achos hwn, rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys:
yr enw llawn a
chyfeiriad cartref llawn
datganiad wedi'i lofnodi yn nodi ei fod yn gofyn am beidio â chyhoeddi ei gyfeiriad cartref
cadarnhad ei fod wedi'i gofrestru ar y gofrestr etholiadol ar gyfer ‘ardal etholiadol’ yn yr ardal heddlu.
nodi'r ardal etholiadol lle mae wedi'i gofrestru. Gall yr ardal etholiadol fod yn unrhyw etholaeth, adran neu ward yn ardal yr heddlu.
Ni fydd cyfeiriadau ymgeiswyr yn ymddangos ar y papur pleidleisio mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, p'un a yw eu cyfeiriad yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ai peidio.