Rhaid i enwau llawn yr ymgeisydd gael eu rhestru ar y ffurflen enwebu, gyda'i gyfenw yn gyntaf wedyn ei holl enwau eraill yn llawn.1
Rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid
Nid yw'r ffurflen enwebu yn rhagnodi lle ar gyfer rhagddodiaid nac ôl-ddodiaid.
Dylid cynghori ymgeiswyr i beidio â chynnwys rhagddodiaid nac ôl-ddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Cyng, nac ôl-ddodiaid megis OBE neu MBA yn y maes ar y ffurflen enwebu sy'n gofyn am ei enw llawn. Os caiff rhagddodiad neu ôl-ddodiad ei ddefnyddio fel rhan o'r enw gwirioneddol ni fyddai'r ffurflen enwebu yn annilys o ganlyniad i hynny, ond ni ddylid trosglwyddo'r rhagddodiad na'r ôl-ddodiad i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno ffurflen enwebu sy'n cynnwys rhagddodiad neu ôl-ddodiad fel rhan o'i enw gwirioneddol, dylech hysbysu'r ymgeisydd a'i asiant na fydd yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio na'r papur pleidleisio, ond nad yw hyn wedi effeithio ar ei enwebiad fel ymgeisydd.
Yr unig eithriad i hyn yw pan fydd rhagddodiad neu ôl-ddodiad wedi cael ei gynnwys fel rhan o enw a ddefnyddir yn gyffredin a bod yr ymgeisydd yn honni mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.