Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Defnyddio enwau pleidiau a disgrifiadau pleidiau

Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at 12 disgrifiad yn ddwyieithog. 

Er mwyn gallu defnyddio manylion adnabod plaid (h.y. enw, disgrifiad ac arwyddlun) rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol a'i bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yng Nghymru (os yw'r ymgeisydd yn sefyll mewn ardal heddlu yng Nghymru) neu Loegr (os yw'r ymgeisydd yn sefyll mewn ardal heddlu yn Lloegr).

Hyd yn oed os yw plaid gofrestredig yn adnabyddus, mae'n hanfodol edrych ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol i gael union fanylion y blaid fel y'u cofrestrwyd â'r Comisiwn.1

Yn achos unrhyw heriau yn y dyfodol, ac er mwyn cynnal trywydd archwilio clir, dylech argraffu copi o'r rhan berthnasol o gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol sy'n dangos y disgrifiadau ac enw'r blaid pan fyddwch yn gwneud eich penderfyniad.

Pa ddisgrifiadau y gellir eu defnyddio?

Mae'r ddeddfwriaeth yn fanwl gywir ynghylch y defnydd o ddisgrifiadau. Caiff ymgeisydd ond defnyddio un o'r disgrifiadau canlynol:2

  • yng Nghymru, y gair 'Independent' a / neu 'Annibynnol
  • yn Lloegr, y gair 'Independent' 
  • enw cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig 
  • un o'r disgrifiadau y mae'r blaid wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn

Yng Nghymru, caiff ymgeisydd ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw neu ddisgrifiad y blaid, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn.

Tystysgrif awdurdodi

Os bydd ymgeisydd am ddefnyddio enw plaid neu ddisgrifiad ohoni, rhaid iddo gael ei awdurdodi gan Swyddog Enwebu'r blaid (neu rywun a awdurdodwyd i weithredu ar ei ran).  

Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif awdurdodi, a lofnodwyd gan neu ar ran Swyddog Enwebu'r blaid erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3

Gallwch weld pwy yw Swyddog Enwebu plaid benodol drwy gyfeirio at gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol. Fodd bynnag, cyhyd â bod yr unigolyn sydd wedi cyflwyno'r dystysgrif yn honni ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hyn gan y Swyddog Enwebu cofrestredig, dylid derbyn y dystysgrif ar ei golwg. 

Mae rhai ymgeiswyr yn darparu dogfen sy'n dangos y dirprwyir pwerau i awdurdodi'r defnydd o enw neu ddisgrifiad plaid i rywun arall (a elwir weithiau'n ‘dystysgrif Swyddog Enwebu Lleol’ neu'n ‘dystysgrif Dirprwy Swyddog Enwebu’).

Nid oes angen i'r ddogfen hon gael ei chyflwyno fel rhan o'r papur enwebu ac felly nid oes ei hangen. Felly, os caiff ei chyflwyno, gall fod yn gopi.

Gall Swyddog Enwebu sefyll fel ymgeisydd. Os digwydd hyn, gall yr ymgeisydd, fel Swyddog Enwebu, awdurdodi ei ddisgrifiad ei hun. Gall unigolyn a awdurdodwyd gan y Swyddog Enwebu i gyflwyno tystysgrif awdurdodi hefyd fod yn ymgeisydd a chyflwyno tystysgrif ar gyfer ei enwebiad ei hun. 
 

Defnyddio disgrifiadau ar y cyd

Gall ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran mwy nag un blaid gofrestredig ddefnyddio disgrifiad ar y cyd sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn. Rhaid i ymgeiswyr o'r fath gyflwyno tystysgrif awdurdodi a roddwyd gan bob un o Swyddogion Enwebu'r pleidiau (neu unigolion a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan) erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. 

Mae disgrifiadau ar y cyd wedi'u rhestru ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol. Er mwyn eu gweld, ewch i'r dudalen gofrestru ar gyfer y pleidiau perthnasol yn yr adran disgrifiadau, ac ym mhob achos bydd y geiriau ‘(Disgrifiad ar y Cyd â phlaid xx)’ yn dilyn y disgrifiad. 

Enghraifft o hyn fyddai ‘Ymgeisydd y Blaid Sgwâr a'r Blaid Gron (Disgrifiad ar y Cyd â'r Blaid Gron)’, a fyddai'n cael ei restru ar dudalen y Blaid Sgwâr. Noder bod y geiriau mewn cromfachau at ddibenion esboniadol yn unig ac nad ydynt yn ffurfio rhan o'r disgrifiad. 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023