Guidance for the GLRO administering the GLA elections

| Argraffu'r canllawiau llawn

Atgynhyrchu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar ddeunydd etholiad

Mae'r tabl isod yn cynnwys nifer o enghreifftiau o gyfuniadau amrywiol o enwau a ddefnyddir yn gyffredin a sut y byddai hyn yn effeithio ar ymddangosiad enw'r ymgeisydd ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio a'r papur pleidleisio:
 

Cyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd Enwau eraill yr ymgeisydd yn llawn Enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin Cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin Enw i'w nodi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r hysbysiad pleidleisio Enw i'w nodi ar y papurau pleidleisio
Etholwr Ann Elsie Pleidleisiwr Pleidleisiwr, Elsie PLEIDLEISIWR, Elsie  
Etholwr Ann [Gwag] Pleidleisiwr Pleidleisiwr, Ann PLEIDLEISIWR, Ann 
Etholwr Ann Elsie [Gwag] Etholwr, Elsie ETHOLWR, Elsie 
Etholwr-Pleidleisiwr Ann [Gwag] Pleidleisiwr Pleidleisiwr, Ann PLEIDLEISIWR, Ann

Os caiff y blwch ar gyfer enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ei adael yn wag, yna bydd enwau cyntaf neu gyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn mynd ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio ac ar y papur pleidleisio.

Dylech gynghori'r ymgeisydd bod y defnydd o enwau cyffredin ond yn gymwys i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio a'r papur pleidleisio. Dylai enw gwirioneddol yr ymgeisydd ymddangos ar unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol iddynt ddangos enw'r ymgeisydd, fel yr argraffnod a ffurflenni gwariant yr ymgeisydd.  

Os byddwch yn gwrthod defnyddio enw cyffredin, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd y ffurflen enwebu. Yn hytrach, effaith hyn fydd y bydd enw llawn yr ymgeisydd yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio a'r papur pleidleisio. Dylid egluro hyn i ymgeiswyr ac asiantiaid a rhaid i chi ysgrifennu at yr ymgeisydd yn nodi'r rhesymau dros wrthod caniatáu i'r enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddefnyddio.1  


 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024