Er mwyn cael ei enwebu'n ddilys, rhaid i ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd roi ernes o £5,000 i chi. Rhaid i'r swm hwn gael ei dalu erbyn cau'r enwebiadau.1
Rhaid i chi dderbyn ernesau a wneir drwy ddefnyddio:2
arian cyfreithlon (arian parod mewn punnoedd Sterling yn unig)
drafft bancwr yn y DU
Gallwch wrthod derbyn drafft banc os nad ydych yn gwybod a yw'r tynnwr yn cynnal busnes fel bancwr yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch ddewis derbyn cyllid ar ffurf:
siec cymdeithas adeiladu
cerdyn debyd neu gredyd
trosglwyddiad electronig
Dylech dderbyn sieciau cymdeithas adeiladu os yw'n cynnal busnes yn y Deyrnas Unedig. Dylech hefyd dderbyn taliadau bancwr sef gorchmynion a gyhoeddir gan fanc, sy'n gwarantu taliad i'r derbynnydd. Os byddwch yn penderfynu derbyn unrhyw rai o'r dulliau hyn dylech eu rhestru ar yr hysbysiad etholiad ac egluro unrhyw ofynion sydd gennych yn y pecyn enwebu.
Os caiff yr ernes ei rhoi i chi gan rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd, rhaid i'r unigolyn sy'n cyflwyno'r ernes roi ei enw a'i gyfeiriad i chi, oni fydd wedi darparu'r wybodaeth hon eisoes fel rhan o'i hysbysiad o benodiad fel asiant etholiad.3
Os na ddangosir bod ymgeisydd wedi'i enwebu yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, rhaid dychwelyd yr ernes cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd i'r sawl a roddodd yr ernes neu ei gynrychiolydd personol.4
Am ragor o wybodaeth am ddychwelyd ernesau gweler ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar brosesau i'w cynnal ar ôl yr etholiad.
Os oes ffi ynghlwm wrth ddull o dalu, gallwch ei throsglwyddo i'r ymgeisydd. Os felly, dylech nodi hyn yn glir ar yr hysbysiad etholiad a'r pecyn enwebu.