Rhaid i ymgyrchydd di-blaid cofrestredig sy’n cyrraedd y trothwy adrodd mewn etholiad cyffredinol i Senedd y Deyrnas Unedig baratoi datganiad cyfrifon ar gyfer y cyfnod a reoleiddir oni bai:
mai unigolyn yw’r ymgyrchydd di-blaid
bod yr ymgyrchydd di-blaid wedi paratoi datganiad cyfrifon at ddiben cyfreithiol arall sy’n ymdrin â’r cyfnod a reoleiddir1
Datganiad cyfrifon
Ar ôl yr etholiad, efallai y bydd angen i chi anfon datganiad cyfrifon atom ar gyfer y cyfnod a reoleiddir hefyd.
Ni fydd angen i chi gyflwyno datganiad cyfrifon i ni:
os oes gofyniad cyfreithiol arnoch eisoes i gyflwyno datganiad cyfrifon y gallwn ei archwilio
os yw'r datganiad cyfrifon hwnnw yn cynnwys cyfrif o incwm a gwariant eich sefydliad ar gyfer y cyfnod a reoleiddir, ac asedau a rhwymedigaethau ar gyfer diwedd y cyfnod a reoleiddir2
Byddwch hefyd wedi'ch eithrio os ydych wedi cofrestru â ni fel ymgyrchydd unigol nad yw'n blaid.3
Adroddiad yr archwilydd
Bydd angen adroddiad gan archwilydd ar y datganiad cyfrifon os oedd unrhyw un o'r canlynol dros £250,000 yn ystod y cyfnod a reoleiddir:4
eich gwariant ar weithgarwch a reoleiddir
eich incwm cofnodedig gros o bob ffynhonnell
eich cyfanswm gwariant, gan gynnwys gwariant ar weithgarwch nas rheoleiddir