Os bydd plaid wleidyddol yn eich awdurdodi i fynd i wariant a dargedir:
dylech gadw cofnod o gyfanswm y gwariant a dargedir
bydd yr holl wariant a dargedir yr eir iddo gennych yn cyfrif tuag at gyfanswm eich gwariant ar yr ymgyrch a rhaid adrodd arno yn eich ffurflen gwariant
bydd unrhyw swm o wariant a dargedir sydd dros y terfyn gwariant a dargedir a hyd at y swm a nodwyd yn awdurdodiad y blaid wleidyddol hefyd yn cyfrif tuag at wariant y blaid ar yr ymgyrch a rhaid adrodd arno yn ffurflen gwariant y blaid wleidyddol
mae'n rhaid i'r blaid wleidyddol ddatgan faint rydych wedi'i wario ar wariant a dargedir a faint y mae wedi'ch awdurdodi i fynd iddo