Mae ymgeisydd yn penderfynu codi arian ar wefan cyllido torfol i'w wario ar eu hymgyrch i gael eu hethol i'r cyngor lleol. Cynhelir yr etholiad ar 1 Mai. Mae'r cyfnod a reoleiddir ar gyfer yr ymgeisydd hwn yn dechrau ar 25 Mawrth.
Mae'r ymgeisydd yn creu tudalen cyllido torfol gyda dyddiad cau o 24 Ebrill.
Mae'r ymgeisydd yn dewis platfform cyllido torfol sy'n casglu digon o wybodaeth am roddwyr i sicrhau y gall gwblhau ei rwymedigaethau cofnodi ac adrodd, ac sy'n caniatáu i roddion gael eu dychwelyd os nas caniateir.
Mae'r ymgeisydd yn cynnwys y wybodaeth ganlynol ar ei dudalen cyllido torfol:
at bwy mae’r arian yn mynd ac at beth y caiff ei ddefnyddio – “Rwy’n codi arian ar gyfer fy ymgyrch i gael fy ethol fel cynrychiolydd y Blaid Lwyd yng Nghyngor Hartsworth”
cyngor y bydd gwiriadau caniatâd yn cael eu cynnal ar gyfer rhoddion dros £50
cyngor os na ellir dilysu rhoddwr, neu os yw'n ffynhonnell nas caniateir, y bydd ei rodd yn cael ei dychwelyd
cyngor y gellir rhoi gwybod am fanylion rhoddion i Swyddogion Canlyniadau fel rhan o ffurflen yr ymgeisydd, ac y gall y Swyddog Canlyniadau yn ei dro sicrhau eu bod ar gael i’r cyhoedd.
argraffnod dilys
Erbyn y dyddiad cau, mae'r ymgeisydd wedi codi £850. Mae'r arian, heb gyfrif ffioedd y platfform, yn cael ei drosglwyddo i'r ymgeisydd bum diwrnod gwaith yn ddiweddarach. Mae’r rhoddion yn cynnwys:
Rhodd A: rhoddwyd £250 ar 10 Ebrill, derbyniwyd enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr
Rhodd B: rhoddwyd £100 ar 12 Ebrill, derbyniwyd enw a chyfeiriad cartref y rhoddwr
Rhodd C: rhoddwyd rhodd breifat o £75 ar 14 Ebrill, derbyniwyd enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr
Rhoddwyd sawl cyfraniad o dan £50 dros y cyfnod cyllido torfol
Mae'r ymgeisydd yn derbyn yr arian ar 1 Mai ac yn lawrlwytho gwybodaeth am y rhoddwyr o'r platfform cyllido torfol. Mae ei ffenestr 30 diwrnod ar gyfer gwneud gwiriadau caniatâd yn dechrau ar 1 Mai, oherwydd dyma'r dyddiad derbyn.
Derbynnir rhodd A ar ôl i wiriadau caniatâd gael eu gwneud.
Mae'r ymgeisydd yn cynnal gwiriadau caniatâd ar Rhodd B ac yn darganfod bod y rhodd wedi dod o ffynhonnell nas caniateir. Mae'r ymgeisydd yn dychwelyd y rhodd i'r rhoddwr trwy'r platfform cyllido torfol.
Dim ond enw a chyfeiriad e-bost y rhoddwr ar gyfer Rhodd C y mae'r ymgeisydd yn ei dderbyn. Nid yw'r wybodaeth hon yn ddigon i wirio a ganiateir. Mae’r ymgeisydd yn cysylltu â’r rhoddwr i ofyn am ei gyfeiriad cartref, ond nid yw’n cael ymateb. Rhaid i'r ymgeisydd wrthod y rhodd a'i dychwelyd i'r rhoddwr.
Nid oes angen i'r ymgeisydd wirio’r cyfraniadau o dan £50.
Pan fydd yr ymgeisydd yn cwblhau ei ffurflen, bydd yn cofnodi'r rhoddion dros £50 a dderbyniodd, a'r rhai a ddychwelwyd. Ni chofnodir cyfraniadau o £50 neu lai. Mae'r ymgeisydd yn cofnodi'r ffioedd a godir gan y platfform o dan y categori costau gweinyddol a llety yn ei ffurflen gwariant.