Dylech wneud yn siŵr bod eich tudalen cyllido torfol yn rhoi gwybodaeth am bwy y mae’r arian yn cael ei roi iddo a thuag at beth mae’r arian yn cael ei gyfrannu. Er enghraifft, dylech nodi'n glir a yw'r arian yn cael ei godi i dalu am eich treuliau etholiad neu eich ymgyrch i'ch helpu i gael eich dewis fel ymgeisydd, neu ymgyrch etholiadol plaid. Mae hyn yn bwysig oherwydd bod trothwyon cofnodi ac adrodd gwahanol ar gyfer rhoddion i ymgeiswyr a rhoddion i bleidiau.
Dylech sicrhau bod y dudalen yn cynnwys gwybodaeth yn egluro y bydd gwiriadau caniatâd yn cael eu cynnal yn unol â'r gyfraith. Dylech fod yn glir ynghylch y rhesymau pam yr ydych yn casglu unrhyw wybodaeth.
Dylai eich tudalen cyllido torfol hefyd esbonio y gellir rhoi gwybod am roddion a gwybodaeth am roddwyr ar gyfer pob rhodd dros £50, gan gynnwys rhoddion preifat, i Swyddogion Canlyniadau. Mae Swyddogion Canlyniadau yn sicrhau bod ffurflenni a baratowyd gan ymgeiswyr ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio ar ôl etholiadau. Gallwch ddod o hyd i ddiffiniad y term ‘rhodd cyllido torfol preifat’, yn Dewis platfform cyllido torfol.
Efallai y byddwch am egluro, os na ellir adnabod rhoddwr, neu os yw'n rhoddwr nas caniateir, yna bydd yn rhaid dychwelyd y rhodd. Os na chewch ddigon o wybodaeth am roddwr, efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn am ragor o fanylion.
Rydym yn argymell eich bod yn cynnwys argraffnod ar eich tudalen cyllido torfol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am argraffnodau digidol yn Argraffnodau.
Os ydych chi'n bwriadu creu ymgyrch cyllido torfol ac rydych chi'n ansicr ynghylch pa ofynion sy'n berthnasol, neu sut i gynllunio eich ymgyrch i fodloni gofynion, gallwch chigysylltu â ni am gyngor.