Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim.
Sut rydych yn cadarnhau a yw partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU?
Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.
Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:
a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cael ei diddymu, yn segur, neu ar fin cael ei dileu o'r gofrestr
a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn hwyr
Mae'n bosibl bod partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei diddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.
O ran unrhyw bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, dylech ystyried edrych ar y canlynol:
gwefan y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig
cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau
Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig ynglŷn â'i gweithgareddau busnes.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
cyfeiriad swyddfa gofrestredig y bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig 2
Dylech hefyd gofnodi rhif cofrestru'r bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig.
1. Atodlen 2A, paragraff 6(1), Deddf Cynrychioilaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(f), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 2