Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Unigolion
Pleidleiswyr tramor: cyngor ar newidiadau arfaethedig i’r gyfraith
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau i gyflwyno cap blynyddol o £100,000 ar gyfer rhoddion a benthyciadau gan bleidleiswyr tramor. Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn ôl-berthnasol i unrhyw roddion a dderbynnir neu fenthyciadau a drefnir o 25 Mawrth 2026 ymlaen. Byddai’r mesurau hyn yn cael eu cyflwyno fel rhan o Fil Cynrychiolaeth y Bobl y Llywodraeth.
Byddai’r cap yn berthnasol i bob rhodd a benthyciad a wneir gan bleidleisiwr tramor, nid dim ond y rhai i dderbynnydd unigol. Golyga hyn na allai pleidleisiwr tramor wneud mwy na chyfanswm o £100,000 mewn rhoddion a benthyciadau i unrhyw endid a reoleiddir mewn blwyddyn galendr. Ni fyddai rhoddion a benthyciadau i bleidiau sydd wedi’u cofrestru yng Ngogledd Iwerddon gan ddinasyddion Gwyddelig yn cael eu heffeithio.
Bwriad y Llywodraeth yw i hyn fod yn berthnasol i roddion i bleidiau; ymgeiswyr di-blaid; deiliaid swyddi etholedig; aelodau plaid a chymdeithasau aelodau; ymgyrchwyr refferendwm a deisebau adalw; ac ymgeiswyr (yn amodol ar gydsyniad deddfwriaethol yng Nghymru a'r Alban).
Unwaith y bydd y newidiadau arfaethedig i'r gyfraith yn dod i rym, byddai gan dderbynwyr 30 diwrnod i ddychwelyd unrhyw roddion a dderbyniwyd neu ddod ag unrhyw fenthyciadau a drefnwyd ar 25 Mawrth 2026 neu ar ôl hynny sy'n fwy na'r cap blynyddol o £100,000 i ben.
Nid oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud i’r gyfraith hyd yma. Mae ein canllawiau'n parhau i adlewyrchu’r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, efallai yr hoffech ystyried gweithredu nawr fel eich bod yn barod ar gyfer unrhyw newidiadau i’r gyfraith yn y dyfodol, gan gynnwys:
- Nodi a chofnodi pa roddion sydd wedi’u gwneud gan bleidleiswyr tramor. Mae pleidleiswyr tramor wedi’u nodi ar y gofrestr etholiadol. Os nad oes gennych fynediad at y gofrestr etholiadol, efallai y byddwch yn dymuno gofyn am y wybodaeth hon gan roddwyr wrth wirio a ydynt yn rhai a ganiateir.
- Gwirio cofrestrau o roddion a benthyciadau yr adroddwyd arnynt i nodi a allai unrhyw roddwr tramor fod wedi rhoi neu fenthyca mwy na £100,000 ym mhob blwyddyn galendr
- Sicrhau bod gennych fanylion cyswllt cyfredol ar gyfer rhoddwyr tramor, fel y gallwch gysylltu â nhw i ofyn am unrhyw ddatganiadau sydd eu hangen
- Sicrhau eich bod yn dal gafael ar adnoddau digonol i ddychwelyd rhoddion neu ddod â benthyciadau gan bleidleiswyr tramor i ben os oes angen
Cyngor dros dro yw hwn, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ynghylch y cynigion hyn. Byddwn yn diweddaru’r nodyn cyngor hwn pan fydd y Llywodraeth yn cyhoeddi gwybodaeth ychwanegol. Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ysgrifenedig gweinidogol hwn neu cysylltwch â’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.
Beth sy'n gwneud unigolyn yn ffynhonnell a ganiateir?
Rhaid i unigolion fod ar un o gofrestrau etholiadol y DU ar adeg rhoi'r rhodd. 1 Mae hyn yn cynnwys etholwyr tramor.
Sut rydych yn cadarnhau'r hyn a ganiateir?
Gallwch ddefnyddio'r gofrestr etholiadol i gadarnhau a yw unigolyn yn rhoddwr a ganiateir. Mae hawl gan ymgeiswyr a'u hasiantiaid i gael copi am ddim o'r gofrestr etholiadol lawn yn y cyfnod cyn etholiad. 2 Dim ond er mwyn cadarnhau a yw rhoddwr yn rhoddwr a ganiateir neu at ddibenion etholiadol eraill y cewch ddefnyddio'r gofrestr. Rhaid i chi beidio â'i rhoi i unrhyw un arall.3
Dylech gysylltu â'r adran cofrestru etholiadol yn y cyngor lleol neu
Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon, fel sy'n briodol, i gael eich copi, gan esbonio eich bod yn gofyn am un fel ymgeisydd mewn etholiad, neu fel asiant etholiad ar ran yr ymgeisydd. 4
Dylech ofyn i'r adran anfon yr holl ddiweddariadau i'r gofrestr atoch hefyd. Mae hyn yn bwysig oherwydd gall enw etholwr gael ei dynnu oddi ar y gofrestr ac felly ar adeg rhoi rhodd efallai na fydd yn rhoddwr a ganiateir. Byddwch yn cael y gofrestr ar ffurf electronig oni bai eich bod yn gofyn am fersiwn argraffedig o'r gofrestr. 5
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt cynghorau lleol drwy ddefnyddio ein hadnodd chwilio codau post.
Rhaid i chi edrych ar y gofrestr a'r diweddariadau'n ofalus, er mwyn sicrhau bod y person ar y gofrestr ar y dyddiad y cawsoch y rhodd.
O dan amgylchiadau arbennig, mae gan bobl gofrestriad dienw. Os yw'r unigolyn wedi'i gofrestru'n ddienw, rhaid i chi ddarparu datganiad i gadarnhau eich bod wedi gweld tystiolaeth bod gan yr unigolyn gofnod dienw ar y gofrestr. 6 Bydd tystiolaeth ar ffurf tystysgrif o gofrestriad dienw. Rhaid i chi gyflwyno copi o'r dystysgrif gyda'r datganiad hwn ynghyd â'ch ffurflen gwariant. 7
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Rhaid i chi gofnodi:
- enw llawn y rhoddwr
- y cyfeiriad fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr etholwyr, neu os mai etholwr tramor yw'r person, ei gyfeiriad cartref (boed yn y DU neu rywle arall) 8
Efallai y bydd yn ddefnyddiol nodi rhif etholiadol y rhoddwr fel cofnod o'ch gwiriadau.
- 1. Atodlen 2A, paragraff 6(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(a) ac (8), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 102(1) a 104(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, Rheoliad 101(1) a 103(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 a Rheoliad 101(1) a 103(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Gogledd Iwerddon) 2008 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 104(3) a (4), 108(5) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 103(3) a (4), 106(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 103(3) a (4), 106(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 102(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 101(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 102(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Cymru a Lloegr 2001, Rheoliad 101(2)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Yr Alban 2001 a Rheoliad 101(2)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl Gogledd Iwerddon 2008 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 2A, paragraff 10(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 2A, paragraff 10(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a paragraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8