Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cwmnïau

Beth sy'n gwneud cwmni yn ffynhonnell a ganiateir? 

Mae cwmni yn rhoddwr a ganiateir:

  • wedi'i gofrestru yn Nhŷ'r Cwmnïau
  • os yw wedi'i gorffori yn y DU
  • os yw'n cynnal busnes yn y DU 1

Rhaid i chi fod yn siŵr bod y cwmni yn bodloni pob un o'r tri maen prawf.

Sut rydych yn cadarnhau cofrestriad cwmni? 

Dylech edrych ar y gofrestr yn Nhŷ'r Cwmnïau, gan ddefnyddio'r gwasanaeth Webcheck am ddim. Dylech edrych ar gofnod cofrestru llawn y cwmni. 

Sut rydych yn cadarnhau a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU?

Rhaid i chi fodloni'ch hun bod y cwmni yn cynnal busnes yn y DU. Gall y busnes fod yn un nid er elw.

Hyd yn oed os ydych yn gyfarwydd â'r cwmni eich hun, dylech edrych ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau er mwyn gweld:

  • a yw'r cwmni yn cael ei ddiddymu, yn segur, neu ar fin cael ei 
    ddileu o'r gofrestr 
  • a yw cyfrifon a ffurflen flynyddol y cwmni yn hwyr

Mae'n bosibl bod cwmni yn dal i gynnal busnes os yw'n cael ei ddiddymu, yn segur neu'n hwyr yn cyflwyno dogfennau, ond dylech wneud gwiriadau ychwanegol er mwyn bodloni'ch hun mai felly y mae.

O ran unrhyw gwmni, dylech ystyried edrych ar y canlynol:

  • gwefan y cwmni
  • cyfeirlyfrau ffôn neu wefannau dibynadwy masnachau perthnasol
  • y cyfrifon diweddaraf a gyflwynwyd i Dŷ'r Cwmnïau

Os nad ydych yn siŵr o hyd a yw'r cwmni yn cynnal busnes yn y DU, dylech ofyn am gadarnhad ysgrifenedig gan gyfarwyddwyr y cwmni ynglŷn â'i weithgareddau busnes.

Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?

Rhaid i chi gofnodi:

  • yr enw fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr
  • cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni
  • rhif cofrestru'r cwmni 2
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024