Rhaid i blaid fod ar gofrestr Prydain Fawr er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 1
Gallwch weld y rhestr lawn o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr ar ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol.
Undebau llafur
Rhaid i undeb llafur fod wedi'i restru fel undeb llafur gan y Swyddog Ardystio neu'r Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 2
Dylech edrych ar y rhestr swyddogol o undebau llafur gweithredol ar wefan y Swyddog Ardystio neu ar wefan y Swyddog Ardystio ar gyfer Gogledd Iwerddon.
Cymdeithasau adeiladu
Rhaid i gymdeithas adeiladu fod yn gymdeithas adeiladu o fewn ystyr Deddf Cymdeithasau Adeiladu 1986 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 3
Dylech edrych ar y rhestr o gymdeithasau adeiladu sydd wedi'u cofrestru gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol.
Cymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus
Rhaid i gymdeithasau cyfeillgar a chymdeithasau diwydiannol a darbodus fod wedi'u cofrestru o dan Ddeddf Cymdeithasau Cyfeillgar 1974, Deddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 neu Ddeddf Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus (Gogledd Iwerddon) 1969 er mwyn bod yn ffynhonnell a ganiateir. 4
Dylech edrych ar y Gofrestr Gyhoeddus o Gwmnïau Cydfuddiannol a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei chofnodi?
Bydd angen i chi gofnodi:
enw'r rhoddwr
y cyfeiriad, fel y mae'n ymddangos ar y gofrestr berthnasol 5
1. Atodlen 2A, paragraff 1(6A) a pharagraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(c) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 1
2. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(d) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 2
3. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(e) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 3
4. Atodlen 2A, paragraff 6(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac adran 54(2)(g) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 4
5. Atodlen 2A, paragraff 11(c) a pharagraff 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Atodlen 6, paragraff 2(5)-(7) a (9) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000↩ Back to content at footnote 5