| Argraffu'r canllawiau llawn

Yn ystod yr ymgyrch, rhaid i chi sicrhau nad ydych yn...

  • Gwneud datganiad ffug am gymeriad personol ymgeisydd arall yn fwriadol. 1
  • Talu canfaswyr. Ystyr canfasio yw ceisio darbwyllo etholwr i bleidleisio dros neu yn erbyn ymgeisydd neu blaid benodol. 2
  • Trin papurau pleidleisio wedi'u cwblhau neu becynnau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleiswyr nad ydynt yn deulu agos neu rhywun rydych yn gofalu amdano.3  

Bydd angen i chi sicrhau bod eich cefnogwyr yn ymwybodol o'r cyfyngiadau o ymdrin â phleidleisiau post ac yn dilyn y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr. Bydd hyn yn eu helpu i osgoi sefyllfaoedd lle y gallai eu gonestrwydd neu eu huniondeb gael ei gwestiynu.

Ceir rhagor o wybodaeth am droseddau mewn etholiad a sut i roi gwybod amdanynt yn ein canllawiau ar droseddau.

Os byddwch chi, neu'ch asiant, wedi gwneud camgymeriad ac wedi torri'r rheolau, gallwch wneud cais am ryddhad rhag canlyniadau gwneud camgymeriad. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar beth i'w wneud os byddwch wedi gwneud camgymeriad.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2024