| Argraffu'r canllawiau llawn

Yn ystod yr ymgyrch, cewch...

  • Annog pobl nad ydynt ar y gofrestr etholiadol i wneud cais i gofrestru. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio mewn da bryd ar gyfer yr etholiad yw 12 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1  Gall unigolion gofrestru ar-lein yn https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
  • Atgoffa pleidleiswyr sy'n dymuno pleidleisio yn bersonol y bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno math o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir er mwyn profi pwy ydynt cyn y byddant yn cael papur pleidleisio. Os na fydd gan unigolyn fath o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir, neu os nad yw'n dymuno defnyddio un o'r rhain, gall wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o brawf adnabod ffotograffig a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr a dderbynnir yn ein canllawiau ar gyfer y diwrnod pleidleisio.
  • Helpu pleidleiswyr gyda gwybodaeth am bleidleisiau post a phleidleisiau drwy ddirprwy ac annog pleidleiswyr i wneud cais ar-lein yn https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 2  Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiadau yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad er, 3  o dan rai amgylchiadau, caiff etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. 4  Gall etholwr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng os bydd wedi cael argyfwng meddygol ar ôl 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad, neu wedi cael ei alw i ffwrdd ar fusnes, neu nad yw'r prawf adnabod ffotograffig yr oedd wedi bwriadu ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio ar gael ac nad oes ganddo fath amgen o brawf adnabod ffotograffig derbyniol.
  • Ceir rhagor o wybodaeth am bwy all gofrestru i bleidleisio a phleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy ar ein gwefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Awst 2025