Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Anghymwysiadau sy'n gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio

Ni allwch sefyll etholiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu:

  • Rydych wedi cael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a gaiff ei gynnal ar yr un diwrnod ar gyfer ardal heddlu wahanol1
  • Rydych wedi cael eich enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad maerol awdurdod cyfun (neu sir gyfun) ar yr un diwrnod lle byddai'r maer hefyd yn arfer swyddogaethau Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu mewn perthynas â'r ardal honno.2
  • Rydych wedi cael eich collfarnu am drosedd garcharadwy yn y gorffennol. Mae'r anghymhwysiad hwn yn gymwys hyd yn oed os na chawsoch eich carcharu mewn gwirionedd am y drosedd honno, neu os yw'r gollfarn wedi darfod. 3
  • Rydych yn swyddog yr heddlu neu wedi eich cyflogi yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan yr heddlu. 4  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ‘Gweithio i'r heddlu’.
  • Chi yw Comisiynydd Tân Llundain neu rydych yn aelod o staff Comisiynydd Tân Llundain.
  • Rydych wedi eich cyflogi, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan awdurdod tân ac achub ac rydych am sefyll etholiad mewn ardal lle mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu hefyd yn gyfrifol am swyddogaeth yr awdurdod tân ac achub.5  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ‘Gweithio i awdurdod tân ac achub yn ardal yr heddlu’.
  • Cewch eich anghymhwyso o dan ddarpariaethau penodol Deddf Anghymwyso Tŷ'r Cyffredin 1975, (fel y'i diwygiwyd), os ydych yn was sifil, yn aelod o'r lluoedd arfog neu'n dal unrhyw swydd farnwrol a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel y'i diwygiwyd). 6
  • Rydych yn aelod o ddeddfwrfa unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i'r DU. 7
  • Rydych yn aelod o staff cyngor lleol sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu yr ydych am sefyll fel ymgeisydd ynddi, neu wedi eich cyflogi mewn sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor lleol yn ardal yr heddlu yr ydych am sefyll fel ymgeisydd ynddi. 8
    - Noder y gallwch fod wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor lleol, er enghraifft, os ydych yn gweithio i wasanaethau tân neu wasanaeth iechyd penodol. Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gweithio i gyngor lleol yn ardal yr heddlu 
    - Mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ni chewch eich trin fel un sydd wedi ei gyflogi gan gyngor lleol os ydych yn gweithio mewn ysgol (naill ai fel athro neu fel rhywun nad yw'n aelod o'r staff addysgu) a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor lleol. 9
    - Ni chaiff aelodau etholedig cynghorau eu hanghymhwyso rhag cael eu hethol mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

At y dibenion hyn, cyngor lleol yw:

  • cyngor sir
  • cyngor bwrdeistref sirol
  • cyngor dosbarth
  • cyngor plwyf
  • cyngor cymuned
  • Cyngor Ynysoedd Scilly

    - Fodd bynnag, gallwch fod wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor plwyf neu gymuned.
     
  • Rydych yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim. 10  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim
  • Rydych wedi eich anghymwyso (fel y'i diwygiwyd)11  os cawsoch eich collfarnu neu eich cael yn euog o arfer etholiadol llwgr neu anghyfreithlon neu o drosedd yn ymwneud â rhoddion, o dan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1988. Mae anghymhwyso rhywun am arfer anghyfreithlon yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu, ac mae'n para am dair blynedd. Mae anghymhwyso rhywun am arfer lwgr yn dechrau o'r dyddiad y cafwyd rhywun yn euog gan lys etholiadol neu o'r dyddiad y cafodd ei gollfarnu ac mae'n para am bum mlynedd.
  • Rydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd fygythiol a ysgogwyd gan ymddygiad gelyniaethus tuag at ymgeisydd, darpar ymgeisydd neu ymgyrchydd neu ddeiliad swydd etholedig berthnasol. Effaith gorchymyn anghymhwyso yw y caiff y person ei anghymhwyso rhag sefyll ar gyfer swydd etholiadol berthnasol, dal na chael ei ethol i swydd o'r fath am bum mlynedd.    
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Hydref 2024