Rydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych:
yn aelod o staff neu wedi eich cyflogi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan gyngor lleol sy'n syrthio'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ardal yr heddlu yr ydych yn sefyll fel ymgeisydd ynddi.
yn aelod o staff neu'n gweithio i sefydliad sydd o dan reolaeth cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor dosbarth neu Gyngor Ynysoedd Scilly, rydych wedi eich anghymhwyso rhag cael eich ethol yn Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Mae gan gynghorau lleol bwyllgorau ac is-bwyllgorau fel arfer. Mae unrhyw un a gyflogir o dan gyfarwyddyd pwyllgorau neu is-bwyllgorau o'r fath wedi ei anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd mewn unrhyw ardal yr heddlu sy'n cynnwys ardal gyfan y cyngor lleol neu ran ohoni.
Fel rheol, os ydych yn gweithio yn y sector cyhoeddus lleol, dylech ofyn i adran AD eich cyflogwr eich helpu i gadarnhau a fyddai'r anghymhwysiad yn gymwys i chi. Weithiau, gall cydberthnasau cyflogaeth fod yn gymhleth ac os felly, rydym yn argymell eich bod yn ceisio eich cyngor cyfreithiol eich hun.
Os ydych yn athro neu'n aelod o staff nad yw'n aelod o'r staff addysgu mewn ysgol neu sefydliad addysgol arall neu a gynorthwyir gan gyngor lleol, gallwch sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar yr amod eich bod yn bodloni'r amodau ac nad ydych wedi eich anghymhwyso fel arall.
Mae'r anghymhwysiad gweithio i'r cyngor lleol yn gymwys ar y dyddiad enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio. Pe baech yn gyflogedig gan y cyngor lleol, byddai'n rhaid eich bod wedi ymddiswyddo a bod unrhyw gyfnod o rybudd wedi mynd heibio cyn y dyddiad enwebu er mwyn osgoi cael contract cyflogaeth â'r cyngor lleol ar yr adeg honno.
Mae cyngor lleol at y dibenion hyn yn un o'r canlynol:
cyngor sir
cyngor bwrdeistref sirol
cyngor dosbarth
cyngor plwyf
cyngor cymuned
Cyngor Ynysoedd Scilly
heblaw y gallwch fod wedi'ch cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth plwyf neu gymuned