Rydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn swyddog yr heddlu neu fel arall wedi eich cyflogi gan yr heddlu.
Mae'r anghymhwysiad hwn yn gymwys i'r canlynol:
aelodau o'r heddlu (gan gynnwys cwnstabliaid rhan amser) yn y DU, gan gynnwys yr heddlu Metropolitanaidd a heddlu Dinas Llundain
aelodau o Heddlu Trafnidiaeth Prydain (gan gynnwys cwnstabliaid rhan amser)
aelodau o'r Heddlu Niwclear Sifil
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd rhag sefyll os ydych yn un o'r canlynol:
aelod o staff Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (heblaw am ddirprwy CHTh)2
aelod o staff Swyddfa Maer Llundain ar gyfer Plismona a Throseddu
Maer Llundain
aelod o Gyngor Cyffredin Dinas Llundain neu aelod o staff y Cyngor hwnnw yn ei rinwedd fel awdurdod yr heddlu
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd rhag sefyll mewn unrhyw etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu os ydych yn aelod o sefydliad sydd o dan reolaeth y canlynol, neu'n aelod o staff y sefydliad hwnnw neu'n dal unrhyw swydd yn y sefydliad hwnnw:
Awdurdod Heddlu Trafnidiaeth Prydain
Awdurdod yr Heddlu Niwclear Sifil
Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol
Rydych wedi eich anghymhwyso hefyd os ydych wedi eich cyflogi gan sefydliad sydd o dan reolaeth corff plismona lleol, prif swyddog yr heddlu ar gyfer heddlu mewn unrhyw ardal yr heddlu neu Ddinas Llundain, prif swyddog yr heddlu ar gyfer Heddlu Trafnidiaeth Prydain neu'r Gwnstabliaeth Niwclear Sifil.
Mae'r anghymhwysiad gweithio i'r heddlu yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio. Pe baech yn gyflogedig gan yr heddlu, byddai'n rhaid eich bod wedi ymddiswyddo a bod unrhyw gyfnod o rybudd wedi mynd heibio cyn y dyddiad enwebu er mwyn osgoi cael contract cyflogaeth â'r heddlu ar yr adeg honno.