Ar ôl yr etholiad, dylech gynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect, gan geisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd a gaiff ei defnyddio i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Dylai cwmpas yr adolygiad drafod pob agwedd ar yr etholiad a dylai pob proses y cynlluniwyd ar ei chyfer ac a gyflawnwyd gael ei hadolygu.
Rhan allweddol o'r adolygiad fydd ystyried y nodau a'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun prosiect a mesur eich perfformiad yn eu herbyn.
Dylech dalu sylw arbennig i adolygu'r canlynol:
eich gwaith cynllunio prosiect
p'un a oeddech yn gallu sicrhau digon o adnoddau
os yw eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella wrth weithio gyda staff etholiadol o awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill
sut y cafodd contractwyr eu rheoli ac a wnaethant gyflawni gwaith yn unol â'r fanyleb ofynnol
y cyfarpar a'r deunydd swyddfa a ddefnyddiwyd
recriwtio a hyfforddi staff
addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd
y gwaith o reoli enwebiadau, gorsafoedd pleidleisio, y broses pleidleisio absennol, a'r broses dilysu a chyfrif
y gwaith o brosesu ymholiadau ac ymdrin â nhw
eich gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd
unrhyw faterion sy'n effeithio ar ddiogelwch/uniondeb yr etholiad
eich rhyngweithiadau ag ymgeiswyr ac asiantiaid
Fel rhan o'r adolygiad dylech geisio adborth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys:
eich staff ac, os yw eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, staff etholiadol o'r awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill
etholwyr
ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol
sefydliadau lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau ethnig lleiafrifol, a swyddogion mynediad y cyngor
Dylech ystyried gwahodd sawl aelod o staff, gan gynnwys staff gorsafoedd pleidleisio, i ddod i gael trafodaeth er mwyn ymdrin â phob agwedd ar y broses sy'n ymwneud â gorsafoedd pleidleisio, o'r sesiynau hyfforddi a briffio hyd at ddelio â sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod pleidleisio. Dylech hefyd ystyried unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Ar ôl i chi adolygu pob agwedd ar yr etholiad a cheisio adborth gan randdeiliaid priodol, dylech lunio dogfen yn nodi'r gwersi a ddysgwyd. Dylai'r ddogfen honno gynnwys dadansoddiad o ba arferion fu'n llwyddiannus a ble arall y gellid eu defnyddio, beth fyddech yn ei wneud eto neu'n wahanol, ac argymhellion allweddol. Dylai'r adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd gael ei ddefnyddio wedyn i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.