Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Canllaw cryno – Paratoi dogfennau etholiadol er mwyn eu storio
Gellir dod o hyd i restr lawn o'r dogfennau y mae dyletswydd arnoch i'w hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw fel Swyddog Canlyniadau yn yr Alban, yma yn ein canllawiau ar Anfon neu gadw dogfennau etholiadol.
Dylech sicrhau bod y broses becynnu mor dryloyw â phosibl. Dylech gynnal trywydd archwilio clir wrth becynnu'r dogfennau ac (os bydd angen) wrth eu hanfon gan y bydd hyn yn helpu i hwyluso'r broses o adalw dogfennau os bydd unrhyw un yn dymuno archwilio'r dogfennau cyhoeddus.
Dylai'r system pecynnu a labelu a ddefnyddiwch ddarparu dull storio diogel a chefnogi proses adalw amserol.
Gellir sicrhau trywydd archwilio clir a phroses dryloyw drwy wneud y canlynol:
- cynhyrchu labeli clir ar gyfer pob pecyn
- rhaid i chi selio'r holl ddogfennaeth berthnasol mewn pecynnau ar wahân1 a marcio pob pecyn â disgrifiad o'i gynnwys, dyddiad yr etholiad a'r etholiad y mae'n cyfeirio ato2
- Rhaid i'r label hefyd gynnwys enw'r etholaeth a dylai nodi am ba hyd y mae'r pecyn i gael ei gadw a phryd y bydd yn cael ei ddinistrio, oni chyfarwyddir yn wahanol gan orchymyn o Dŷ'r Cyffredin, yr Uchel Lys (Llys y Sesiwn yn yr Alban), Llys y Goron neu lys ynadon)
- dylai'r labeli ar gyfer dogfennau y gall y cyhoedd eu harchwilio a'r labeli ar gyfer dogfennau na all y cyhoedd eu harchwilio fod yn wahanol. Fel gofyniad sylfaenol, dylai'r pecynnau sy'n cynnwys dogfennau na all y cyhoedd eu harchwilio nodi'r ffaith hon3
- sicrhau eich bod wedi ystyried y gwaith o becynnu'r dogfennau wrth gynllunio eich proses dilysu a chyfrif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer dilysu.
- ymdrin â chyfarwyddiadau pecynnu fel rhan o'ch hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio ac wrth hyfforddi goruchwylwyr pleidleisiau post a chyfrif. Dylai darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig helpu hefyd i leihau'r risg y caiff dogfennau eu pecynnu'n anghywir. Mae templed o ganllaw graffigol ar ddeunyddiau pacio pan fydd gorsafoedd pleidleisio yn cau hefyd ar gael, y gallech ei addasu a'i roi i staff gorsafoedd pleidleisio. Dylai staff hefyd gyfeirio at ein llawlyfr i orsafoedd pleidleisio.
- creu rhestr o'r holl ddogfennau i'w hanfon (pan fydd hynny'n ofynnol). Dylech gadw cofnod o'r holl ddeunyddiau y mae dyletswydd arnoch i'w hanfon at y swyddog cofrestru perthnasol, a sicrhau y rhoddir cyfrif am yr holl eitemau ac y cânt eu dosbarthu'n ddiogel yn unol â gofynion diogelu data.
Templed o ganllaw graffigol ar ddeunyddiau pecynnu ar gyfer diwedd y cyfnod pleidleisio
Yng Nghymru a Lloegr pan fyddwch wedi anfon dogfennau at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, dylech hefyd wneud y canlynol:
- cofnodi nifer y parseli rydych wedi eu hanfon
- cofnodi manylion y Swyddog Cofrestru Etholiadol y cawsant eu hanfon ato
- cael derbynneb gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cadarnhau bod y parseli wedi cael eu derbyn yn ddiogel
Mae'n bwysig sicrhau y bydd pob pecyn a chynhwysydd sy'n cynnwys dogfennau etholiadol yn cael eu storio'n ddiogel cyn eu trosglwyddo i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel na all neb heb awdurdod ymyrryd â hwy.
- 1. Rheol 54 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 55(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheolau 43 a 54 ↩ Back to content at footnote 3