Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiadol

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i selio'r dogfennau etholiadol a restrir isod ac, ar ôl gorffen cyfrif y papurau pleidleisio, rhaid i chi eu hanfon at y swyddog cofrestru perthnasol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw yn yr Alban.1   

Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sicrhau bod ganddo ddull o gofnodi dyddiad derbyn y dogfennau, fel ei fod yn gwybod pryd i ddinistrio'r rhai a anfonwyd ymlaen.
 
Mae'r rhestrau canlynol yn cynnwys y dogfennau y mae'n rhaid i chi eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw fel Swyddog Canlyniadau yn yr Alban. 

Dogfennau o orsafoedd pleidleisio:2  

  • Y pecynnau sy'n cynnwys:
    • y rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd 
    • y rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion 
    • y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau 
    • y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu 
    • y datganiadau yn ymwneud â phleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu 
    • y rhestr o bobl yr anfonir papurau pleidleisio atynt ar ôl i wall clercaidd gael ei gywiro neu o ganlyniad i benderfyniad ar apêl i'r llys sirol  
    • y Rhestr Wrthod Papurau Pleidleisio
    • y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr 
  • copïau wedi eu marcio o'r gofrestr etholwyr, y rhestr dirprwyon wedi ei marcio ac unrhyw hysbysiadau copi wedi'u marcio o ganlyniad i gywiro gwall clercaidd neu benderfyniad ar apêl i'r llys perthnasol  
  • y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol y gorsafoedd pleidleisio wedi'u cwblhau 
  • tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio

Dogfennau o'r prosesau o ddosbarthu ac agor pleidleisiau post:3  

  • copïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
  • y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol y pleidleisiau post wedi'u cwblhau 
  • y pecynnau o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a dderbyniwyd fel rhai dilys 
  • y pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd
  • y pecyn o bleidleisiau post a wrthodwyd a wrthodwyd ar y pwynt y cafodd ei gyflwyno (neu ei adael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor a'r ffurflenni pleidlais bost wedi'u cwblhau sy'n cyd-fynd â nhw
  • y pecynnau o amlenni papurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd
  • y rhestrau o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd, a gollwyd ac a ddifethwyd
  • y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a'r dogfennau ategol
  • y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd a oedd yn cynnwys unrhyw ran o'r pecyn pleidleisio drwy'r post nas collwyd ac a ddychwelwyd atoch cyn i chi anfon un arall yn ei le
  • y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau ac amlenni a ganslwyd
  • pecyn ffurflenni trin pleidleisiau post wedi'u cwblhau ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd a'r pleidleisiau post a wrthodwyd perthnasol
  • pecyn ffurflenni trin pleidleisiau post wedi'u llenwi ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd 
  • pecynnau pleidleisio drwy'r post nas agorwyd a dderbyniwyd ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio neu a ddychwelwyd fel rhai nas dosbarthwyd (gellir eu hanfon ar ddyddiad arall yn nes ymlaen)

Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau anfon 

  • y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd oherwydd cawsant eu trin yn anghywir 
  • y datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post 
  • y rhannau perthnasol o'r rhestr o bleidleisiau post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion
  • y rhestr yn ymwneud â phleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor  

    Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w alluogi i anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidlais bost at yr etholwyr hynny. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.  

    Ar yr un pryd dylech hefyd anfon eich cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni o bosibl, er mwyn i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gwybod ym mha achosion na ddylent anfon hysbysiad o wrthod dynodydd pleidlais bost.4   

    I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys y rhestrau amrywiol sy'n ymwneud â phleidleisio drwy'r post, gweler ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post

Dogfennau o'r cyfrif:5  

  • storio papurau pleidleisio ar wahân fel:
    • papurau pleidleisio a gyfrifwyd
    • papurau pleidleisio a wrthodwyd
    • papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (rhai cyffredin a rhai a gyflwynwyd) a phapurau pleidleisio a ddifethwyd (a osodir gyda'i gilydd)  
    • papurau pleidleisio a gyflwynwyd a gafodd eu defnyddio
  • cyfrifon papurau pleidleisio, canlyniad dilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio a'r datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Hydref 2024