Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Casglu data ar ôl yr etholiad

Casglu data ac adborth mewn etholiad cyffredinol

Mewn etholiad cyffredinol, byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth a data atom mewn perthynas â'r etholiad.  

Os ydych wedi dewis casglu data yn yr orsaf bleidleisio sy'n ymwneud â chyflwyno ID pleidleisiwr, mewn is-etholiad nid oes unrhyw ofyniad i rannu'r data hwn â ni.

Bydd ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw i'w llenwi, yn ogystal â ffurflen adborth y Comisiwn, yn cael eu dosbarthu ar wahân a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan.

Datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post

Rhaid i chi gwblhau datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth.1
 
Mae'r datganiad yn hanfodol ar gyfer cyfrifo pleidleisiau post ac am sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt.  

Dylai'r datganiad fod yn rhan o'r trefniadau sydd ar waith gennych i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisiau post a chyfrif.  

Dylech gwblhau'r datganiad yn gywir gan ddefnyddio'r ffigurau a gofnodwyd wrth anfon, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.

Cewch ragor o wybodaeth am gadw cofnodion yn ystod y broses pleidleisio drwy'r post yn ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post.  

Ble i anfon y datganiad o ran papurau pleidleisio

Rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Comisiwn Etholiadol. Rhaid i'r datganiad beidio â chael ei ddarparu cyn y degfed diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio, ond rhaid iddo gyrraedd erbyn y pumed diwrnod calendr ar hugain ar ôl y diwrnod pleidleisio fan bellaf. 

Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweinyddu'r dogfennau a ddychwelwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, a dylai datganiadau gael eu hanfon i [email protected] gan ddefnyddio teitl pwnc ‘[enw'r awdurdod] – Form K1 return for the Secretary of State’.  

Dylid anfon y datganiad i’r Comisiwn gan ddefnyddio [email protected] (Yn agor ffenestr newydd)

Ar wahân i’r datganiad statudol ynghylch pleidleisiau post, mae’r Comisiwn yn casglu data ar bleidleisio drwy’r post drwy ein porth ar-lein mewn un cais am ddata ochr yn ochr â data etholiadol perthnasol arall, e.e. y nifer a bleidleisiodd a phleidleisiau a wrthodwyd. Bydd manylion am sut i ddarparu'r wybodaeth hon i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddu Etholiadol y Comisiwn.

Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o'r datganiad wedi'i gwblhau ar yr un pryd ac i'r un person ag y byddwch yn anfon y dogfennau etholiad eraill a restrir yn ein canllawiau: Anfon dogfennau etholiadol ymlaen neu eu cadw
 

Ffurflen gwerthuso ID Pleidleisiwr

Mae'n ofynnol i chi gasglu data mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n ymwneud â gweithredu'r mesurau ID pleidleisiwr newydd yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU.

Efallai mai dim ond oherwydd cyfyngiadau deddfwriaethol penodol y caiff rhywfaint o’r data hwn ei rannu â Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Etholiadol, ond efallai y caiff rhai eu rhannu’n ehangach.

Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am anfon y data a gasglwyd o'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i'r Comisiwn Etholiadol, os gofynnir amdano.2

I gael rhagor o wybodaeth am goladu a chyflenwi’r data hwn, gweler ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.

Yn yr Alban, mae'r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am anfon y data a gasglwyd o'r  Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr ymlaen i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i'r Comisiwn Etholiadol, os gofynnir amdano. I gael rhagor o wybodaeth am goladu a chyflenwi’r data hwn, gweler ein canllawiau ar Ddatgelu rhestrau gwrthod papurau pleidleisio a ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2024