Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Arsyllwyr Achrededig a Chynrychiolwyr y Comisiwn

Mae gan arsyllwyr sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn yr hawl i arsylwi:

  • dosbarthu a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post
  • y bleidlais
  • dilysu a chyfrif y pleidleisiau1  

Dylai eich cynllun prosiect gynnwys prosesau i reoli ymholiadau posibl gan arsyllwyr ac i gefnogi eu presenoldeb yn y prosesau etholiadol y mae ganddynt hawl i'w mynychu. Dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth i arsyllwyr am leoliad ac amseriad y prosesau uchod.

Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn hefyd yr hawl i arsylwi'r prosesau hyn ac, yn ogystal, mae ganddynt hawl i arsylwi ar eich arferion gwaith.2  

Nid oes angen i arsyllwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn roi hysbysiad ymlaen llaw o ble y maent yn bwriadu arsylwi, ond byddant yn cario cerdyn adnabod ffotograffig a roddwyd gan y Comisiwn gyda nhw.

Canllaw cyflym i'r mathau o fathodynnau arsyllwyr

Math o fathodyn arsyllwyrPwy ydyn nhw?Mynediad
Cynrychiolwyr y Comisiwn EtholiadolYr un fath ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad at ddosbarthu pleidleisiau post, ac arferion gwaith y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
 
Arsyllwyr wedi'u hachredu gan y ComisiwnYr un fath ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad at ddosbarthu pleidleisiau post

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws unigolyn penodol sy’n ceisio cael mynediad i brosesau etholiadol, gallwch wirio’r cofrestrau o arsyllwyr ar wefan y Comisiwn.

Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw i God ymarfer y Comisiwn ar gyfer arsyllwyr wrth reoli presenoldeb arsyllwyr.3  Bydd arsyllwyr wedi cytuno i gydymffurfio â’r safonau ymddygiad a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiwn. Os credwch fod y Cod ymarfer wedi'i dorri, rhowch wybod i'ch tîm Comisiwn lleol.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl arsylwyr, gweler ein canllawiau i arsylwyr etholiadol achrededig.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024