Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Cynllunio ar gyfer etholiad Senedd y DU
Cynllunio ar gyfer etholiad Senedd y DU
Mae etholiad Senedd y DU yn ddigwyddiad pwysig sy'n peri ei heriau penodol ei hun. Bydd eich gwaith i gynnal etholiad yn drefnus yn cael cryn sylw – ymhlith pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, a'r cyfryngau gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r adran hon yn ceisio amlygu rhai o'r agweddau penodol ar gyd-destun sy'n berthnasol i etholiadau Senedd y DU. Dylech sicrhau eu bod wrth wraidd pob agwedd ar eich gwaith cynllunio.
Natur etholiad Senedd y DU
Mae'n debygol y bydd yr etholiad yn cael ei ymladd yn frwd, gyda sawl brwydr agos mewn etholaethau ledled Prydain Fawr. Gallai'r dirwedd wleidyddol newidiol olygu, hyd yn oed mewn mannau lle y bu mwyafrif mawr yn draddodiadol, efallai na fydd hyn yn wir mwyach. Gallai'r ffocws a'r amgylchiadau fod yn wahanol i unrhyw beth a brofwyd yn eich ardal o'r blaen.
Efallai y bydd nifer sylweddol o bleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n llai cyfarwydd ag arferion a phrosesau etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol.
O ystyried yn arbennig y posibilrwydd y ceir brwydrau agos ac anodd, dylech fod yn barod i uniondeb yr etholiad hwn fod yn destun craffu. Bydd honiadau ac achosion o dwyll etholiadol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar hyder etholwyr ac ymgyrchwyr, ond gallant hefyd gael effaith sylweddol ar eich gallu i reoli'r broses etholiadol yn effeithiol. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn gweithredu cynlluniau manwl a chadarn ar gyfer monitro a chynnal uniondeb yr etholiad yn eich ardal. Dylech weithio'n agos gyda'r heddlu lleol, gan sicrhau bod gennych linellau cyfathrebu da ar waith ar gyfer atgyfeirio unrhyw honiadau. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ynghylch Cynnal uniondeb yr etholiad.
Maint a'r nifer sy'n pleidleisio
Bydd faint o waith paratoi y byddwch yn gallu ei wneud cyn etholiad yn amrywio yn dibynnu ar amryw o ffactorau, gan gynnwys p'un a yw'n etholiad a drefnwyd neu'n isetholiad, nifer yr etholaethau rydych yn gyfrifol amdanynt, a faint o etholiadau cyfunol fydd yn cael eu cynnal, os o gwbl.
Bydd angen i sawl agwedd ar gynllunio'r etholiad adlewyrchu tybiaethau o ran y niferoedd tebygol a wnaiff bleidleisio. Bydd llunio'r fath dybiaethau ar gam cynnar o'r gwaith cynllunio yn allweddol gan mai prin y gellir newid cynlluniau ar gam hwyrach yn y broses.
Mae'n debygol y bydd cryn dipyn o ddiddordeb yn etholiad Senedd y DU. Dylech gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd nifer uchel yn pleidleisio ac, fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf.
Wrth i'r bleidlais nesáu, bydd y cyd-destun yn parhau i newid wrth i'r ymgyrchoedd ddatblygu. Bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau yn eich etholaeth ac yn fwy cyffredinol a allai gael effaith ar gynnal y bleidlais yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys cael cynlluniau wrth gefn cadarn i'w rhoi ar waith os bydd angen. Er enghraifft, os darlledir dadleuon arweinwyr ar y teledu eto, gallai'r rhain arwain at gynnydd hwyr yn nifer y ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol, yn ogystal â chael effaith ar y niferoedd a fydd yn pleidleisio ac maent yn debygol o newid y patrwm traddodiadol pan ddychwelir pleidleisiau post wedi'u cwblhau.
Mae'n hanfodol bod darpariaeth briodol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, gyda digon o orsafoedd a staff i ymdrin â nifer yr etholwyr a neilltuwyd iddynt. Er bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i unrhyw bleidleisiwr sydd mewn ciw ar gyfer ei orsaf bleidleisio am 10pm fwrw pleidlais,1 mae dal angen sicrhau nad yw pleidleiswyr yn wynebu oedi gormodol cyn pleidleisio a'u bod yn derbyn gwasanaeth o safon.
Mae'n debygol y bydd sylw gan y cyfryngau ar y cyfrif a datgan y canlyniadau a bydd yn bwysig rheoli disgwyliadau, nid yn unig o ran y cyfryngau ond hefyd o ran pawb sydd â diddordeb yn y canlyniadau, drwy ymgynghori ar eich dull bwriadedig o weithredu ac wedyn nodi'n glir yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud ac erbyn pryd.
- 1. Rheol 37(7) Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1