Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Neilltuo adnoddau staff digonol a darparu hyfforddiant

Dylai eich cynllun prosiect gynnwys nodi gofynion staffio, gan gynnwys unrhyw drefniadau recriwtio angenrheidiol. Mae'n hanfodol eich bod yn nodi'r staff y bydd eu hangen arnoch a gwneud y penodiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl. 

Dylech ofyn i adran adnoddau dynol eich awdurdod lleol am gyngor fel y bo angen er mwyn sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i nodi, recriwtio a chyflogi staff yn gadarn a'u bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol.

Yn dilyn asesiad o berfformiad staff a ddefnyddiwyd mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol, efallai y byddwch am ysgrifennu at staff a ddefnyddiwyd o'r blaen ar gam cynnar yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau eu bod ar gael. 

Bydd angen i chi sicrhau bod pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant digonol i ymgymryd â'i rôl/rolau. Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd i bob aelod o staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, gan gynnwys staff sy'n cefnogi gwasanaethau etholiadol, er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.

Mae ein canllaw ar hygyrchedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sicrhau bod y rheiny sy'n gweithio i gefnogi'r bleidlais yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd.

Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Ebrill 2024