Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Penodi staff gorsafoedd pleidleisio

Rhaid i chi benodi a thalu Swyddog Llywyddu a'r cyfryw Glercod Pleidleisio ag sydd eu hangen i staffio pob gorsaf bleidleisio.1  Ni ellir penodi unrhyw unigolyn a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.2

Mae rhai cyfrifoldebau na all Clerc Pleidleisio ymgymryd â nhw, megis penderfynu a oes etholwr wedi dangos math derbyniol o brawf adnabod, neu orchymyn i rywun adael yr orsaf bleidleisio. Mae gennych yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r Clercod Pleidleisio a gyflogir gennych i gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill sy'n angenrheidiol i gynnal proses pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn effeithiol, gan gynnwys:

  • y broses bleidleisio – gwirio'r gofrestr, gwirio prawf adnabod ffotograffig, marcio'r gofrestr, llenwi'r rhestr rhifau cyfatebol a gwaith papur statudol eraill megis y rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd ac ati.
  • hwyluso gwiriadau o brawf adnabod ffotograffig yn breifat, os gofynnir am hynny
  • casglu, derbyn a gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio a chwblhau ffurflen y bleidlais bost yn gywir
  • rheoli llif yr etholwyr a sicrhau cyfrinachedd y bleidlais 
  • rhoi gwybodaeth ychwanegol a chymorth i etholwyr, gan gynnwys:
    • ateb cwestiynau am y broses
    • rhoi gwybodaeth am y cyfarwyddiadau i bleidleisio a'r gofyniad i ddangos prawf adnabod ffotograffig
    • esbonio'r mathau o brawf adnabod ffotograffig y gellir eu defnyddio
    • rhoi cyngor a chymorth i wneud y bleidlais yn hygyrch

Wrth benderfynu ar neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio, drwy roi sylw i'n canllawiau ar y lefelau staffio gofynnol a argymhellir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac ar sut y gellid defnyddio staff mewn senarios gwahanol, byddwch yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr gael gwasanaeth o ansawdd uchel. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024