Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll etholiadol posibl, bydd angen i chi sicrhau bod systemau ar waith i nodi unrhyw batrymau gweithgarwch a allai awgrymu achos posibl o dwyll etholiadol. Dylech fod yn ymwybodol o'r holl ddata sydd ar gael i chi, a dylech ystyried y data hynny, gan gynnwys:
a fu unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau cofrestru neu bleidleisiau absennol mewn etholiadau blaenorol
a fu unrhyw batrymau anarferol o ran papurau pleidleisio a wrthodwyd, gan gynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd, mewn etholiadau blaenorol
a oes unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau cofrestru neu bleidleisiau absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad
Rydych mewn sefyllfa unigryw i nodi achosion a phatrymau gweithgarwch a allai fod yn arwydd o dwyll etholiadol yn eich ardal. Gallai cymryd camau cynnar i fynd i'r afael ag achosion posibl o dwyll helpu i osgoi ymchwiliadau costus gan yr heddlu neu heriau cyfreithiol i ganlyniadau'r etholiadau.
Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i asesu'r risg o dwyll etholiadol yn eich ardal, gan gynnwys ystyried y canlynol:
a fu hanes o honiadau o dwyll etholiadol yn yr ardal
a yw'r etholiad yn debygol o fod yn arbennig o agos ac wedi'i ymladd yn galed
ai sedd ymylol ydyw, lle mai dim ond newid cymharol fach sydd ei angen yn nifer y pleidleisiau er mwyn newid rheolaeth
a oes unrhyw frwydr sy'n seiliedig ar anghytundebau personol cryf yn ogystal â dadleuon gwleidyddol
risgiau lle ceir poblogaeth symudol iawn lle mae nifer yr etholwyr yn newid yn aml
risgiau lle ceir etholwyr a all fod yn fwy agored i niwed oherwydd lefelau isel o lythrennedd a/neu allu o ran Cymraeg/Saesneg