Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cynllunio eich dull o sicrhau uniondeb yr etholiad

Dylai fod gennych gynlluniau a phrosesau ar waith i sicrhau uniondeb yr etholiad.

Dylech ddatblygu eich cynlluniau drwy ymgynghori â phwynt cyswllt unigol (SPOC) yr heddlu. Dylai'r cynlluniau gynnwys y canlynol: 

  • sut y byddwch yn gweithio gyda'r heddlu lleol a'r SPOC, gan amlinellu sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu er mwyn sicrhau eglurder ynghylch rolau pawb, llinellau cyfathrebu clir a chytundeb o ran pa mor aml y byddech yn disgwyl cysylltu â'ch gilydd  
  • sut y byddwch yn cyfleu eich dull o sicrhau uniondeb etholiadol i randdeiliaid ac etholwyr, er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn yr etholiad 
  • systemau ar gyfer monitro dangosyddion ar gyfer twyll etholiadol posibl a phennu trothwyon ar gyfer gweithredu mewn ymateb i hynny
  • camau penodol i ddelio ag unrhyw achosion posibl o dwyll etholiadol fel:
    • dull y cytunir arno o sicrhau yr ymchwilir ymhellach i honiadau o dwyll lle y bo'n briodol
    • sefydlu proses ar gyfer trin tystiolaeth, fel y gall yr heddlu wneud unrhyw waith dadansoddi fforensig
    • unrhyw risgiau penodol a nodwyd gennych yn ychwanegol at unrhyw gynlluniau cyffredinol ar gyfer canfod twyll 

Gallai risgiau penodol gynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth fel neuaddau preswyl myfyrwyr neu gartrefi gofal lle gall pobl eraill weld post personol neu lle gall y rhai sy'n rhoi gofal helpu preswylwyr mewn cartrefi gofal i gwblhau ceisiadau pleidleisio drwy'r post neu bleidleisiau post.

Gwneud cynlluniau ar gyfer sicrhau diogelwch papurau 

Dylai eich cynllun prosiect gynnwys adolygiad o'r trefniadau diogelwch a wnaed â'r heddlu lleol i sicrhau diogelwch papurau pleidleisio drwy gydol y broses.

Dylai eich trefniadau diogelwch atal pobl rhag gweld a defnyddio'r papurau pleidleisio heb awdurdod ar bob cam o'r broses o'u llunio ac wrth eu storio rhwng yr adeg pan gânt eu hargraffu a'r etholiad.

Pa ddull storio bynnag a ddewiswch, dylech sicrhau y gallwch fod yn fodlon eich bod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y papurau pleidleisio ac eitemau eraill yn cael eu cadw'n ddiogel drwy'r amser ac na ellir ymyrryd â hwy.

Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Medi 2024