Unwaith y byddwch wedi penderfynu bod enwebiad yn ddilys, ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad, er y gellir ei herio ar ôl yr etholiad ar ffurf deiseb etholiadol1
.
Os byddwch wedi gwneud penderfyniad ffurfiol ond yna, o ganlyniad i wrthwynebiad, yn penderfynu wedyn y dylai'r ffurflen enwebu fod wedi'i phennu'n annilys mewn gwirionedd, cewch wneud penderfyniad pellach i'r perwyl hwn.
Os byddwch yn penderfynu bod enwebiad yn annilys, rhaid i chi wneud y canlynol:
datgan hyn ar y ffurflen enwebu
ysgrifennu'r rhesymau dros wrthod ar y ffurflen
llofnodi'r ffurflen
cysylltu â'r ymgeisydd a'r asiant cyn gynted â phosibl fel y gall gael y cyfle, lle bynnag y bo'n bosibl, i gyflwyno ffurflen enwebu arall cyn i enwebiadau gau2