Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Ymgeisydd yn tynnu'n ôl cyn y terfyn amser

Gall ymgeisydd a enwebwyd dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl os bydd yn gwneud hynny cyn y terfyn amser. Nid yw hysbysiad tynnu enw'n ôl wedi'i ragnodi mewn deddfwriaeth ond rydym yn darparu templed o hysbysiad tynnu enw'n ôl i ymgeiswyr ei ddefnyddio. 

Rhaid i hysbysiad tynnu enw'n ôl1 :

  • gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd
  • cael ei ardystio gan un tyst
  • cael ei gyflwyno'n bersonol i'r man cyflwyno papurau enwebu
  • cael ei gyflwyno erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl.

Os nad yw'r ymgeisydd yn y DU, bydd hysbysiad o dynnu enw'n ôl mewn grym os bydd2 :

  • wedi'i lofnodi gan y cynigydd
  • yn cael ei gyflwyno ar y cyd â datganiad ysgrifenedig yn nodi bod yr ymgeisydd dramor (sydd hefyd wedi'i lofnodi gan y cynigydd)
  • yn cael ei gyflwyno i chi erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais

Os enwebwyd yr ymgeisydd gan fwy nag un ffurflen enwebu, rhaid i bob cynigydd lofnodi'r hysbysiad a'r datganiad3 .  

Os bydd unrhyw gynigydd y tu allan i'r DU, nid oes angen iddo lofnodi'r hysbysiad, ond rhaid i'r hysbysiad, yn ôl y gyfraith, gynnwys datganiad ei fod hefyd y tu allan i'r DU4


Dychwelyd ernes o ganlyniad i dynnu enw'n ôl 

Rhaid i chi ddychwelyd ernes unrhyw ymgeisydd sydd wedi tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl. Rhaid i'r ernes gael ei dychwelyd at y person a'i cyflwynodd a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gael ei gyhoeddi.5  I gael canllawiau ar ddychwelyd ernesau i ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys ar ôl etholiad, gweler ein hadran ar Weithgarwch ar ôl yr etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023