Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Penderfynu bod enwebiad yn annilys
Seiliau dros benderfynu bod ffurflen enwebu yn annilys
Yn ôl y gyfraith, yr unig sail sydd gennych dros benderfynu bod ffurflen enwebu yn annilys yw:1
- nad yw manylion yr ymgeisydd neu'r rhai sy'n llofnodi'r ffurflen enwebu yn cyfateb i'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
- na lofnodwyd y ffurflen fel y bo'n ofynnol
- bod y person yn cael ei anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 ar y sail ei fod wedi'i garcharu ac yn bwrw dedfryd o flwyddyn neu fwy
- bod y person yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau 2022
Manylion yr ymgeisydd
Mae manylion yr ymgeisydd yn cynnwys y disgrifiad a roddwyd ar y papur enwebu, felly, rhaid pennu bod yr enwebiad yn annilys:
- os nad yw'r blaid yn ymddangos ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol yn blaid sy'n ymladd etholiadau yn eich rhan chi o'r wlad
- os nad yw enw'r blaid na'r disgrifiad a ddefnyddir ar y ffurflen enwebu yn cyfateb yn union i'r enw neu'r disgrifiad sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn
- os nad yw'r defnydd o enw'r blaid na'r disgrifiad wedi cael ei awdurdodi gan dystysgrif awdurdodi a lofnodwyd gan neu ar ran Swyddog Enwebu'r blaid
- mae'r dystysgrif awdurdodi yn awdurdodi enw neu ddisgrifiad penodol yn glir ac nid yw hyn yn cyd-fynd ag enw/disgrifiad y blaid ar y ffurflen enwebu2
Mae cyfraith achosion sy'n darparu y dylid ystyried bod ymgeiswyr sy'n rhoi disgrifiadau sy'n anweddus, yn hiliol neu sy'n ysgogi trosedd, wedi cyflwyno manylion “nad ydynt yn unol â'r gyfraith”. Y rheswm dros hyn yw eu bod yn mynd yn groes i'r gyfraith a/neu y byddant yn anochel yn cynnwys y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu mewn achos o dorri'r gyfraithT.
Os nad yw'r ffurflen enwebu yn cydymffurfio â'r rheolau ar gyfer disgrifiadau, rhaid i chi wneud penderfyniad i'r perwyl hwn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r ffurflen enwebu gael ei chyflwyno a, sut bynnag, heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3
Rydym wedi llunio rhestr wirio enwebiadau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n nodi'r hyn y bydd angen i chi ei ystyried a phethau penodol i gadw llygad amdanynt pan fyddwch yn penderfynu ar enwebiad.
Llofnodwyr
Mae ein hadran 'Ffurflen enwebu - gofynion llofnodwyr' yn cynnwys gwybodaeth fanwl am lofnodwyr.
Os na chaiff ffurflen enwebu ei llofnodi yn ôl y gofyn, rhaid ei phennu'n annilys.
Methiant i roi ernes
Os na fyddwch wedi cael yr ernes o £5,000 sy'n ofynnol erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, ni fydd yr ymgeisydd wedi'i enwebu'n ddilys. Yna ni fydd angen gwneud penderfyniad ffurfiol, ac ni ddylai ei enw ymddangos ar y datganiad ynghylch yr unigolion a enwebwyd.4
Dychwelyd ernes am nad yw'r enwebiad yn ddilys
Rhaid i chi ddychwelyd ernes unrhyw ymgeisydd y mae ei enwebiad wedi cael ei wrthod. Rhaid i'r ernes gael ei dychwelyd at y person a'i cyflwynodd a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gael ei gyhoeddi.5 I gael rhagor o wybodaeth am ddychwelyd ernesau i ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys ar ôl etholiad, gweler Gweithgarwch ar ôl yr etholiad.
Seiliau dros benderfynu bod ffurflen cyfeiriad cartref yn annilys
Rhaid i chi benderfynu nad yw'r ffurflen cyfeiriad cartref yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol:6
- os nad yw'n nodi enw llawn yr ymgeisydd
- os nad yw'n nodi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn
Enwebiadau ffug
Efallai y bydd sefyllfa'n codi pan fydd enwebiad ymgeisydd yn amlwg yn ffug – er enghraifft, os bydd ymgeisydd wedi rhoi enw neu gyfeiriad sy'n amlwg yn ffug fel ‘Mickey Mouse, Disneyland’. Mewn achos o'r fath, rhaid pennu bod y papur enwebu yn annilys ar y sail nad yw manylion yr ymgeisydd wedi'u nodi yn unol â'r gyfraith.7
Wrth ystyried yr enw, dylid ystyried yn bennaf a yw'r “enw” a roddwyd ar y ffurflen enwebu yn ymddangos yn “amlwg yn ffug” ar wyneb y papur.
Os nad yw'r “enw” yn ymddangos yn ddilys a'i fod yn ymddangos fel datganiad neu slogan, er enghraifft, cewch ystyried ei fod yn “amlwg yn ffug”.
Byddai unrhyw gasgliad yn cael ei ategu o ystyried y cyd-destun ehangach. Er enghraifft, a yw'n ymddangos mai slogan gwleidyddol yw'r enw mewn ymateb i ddigwyddiadau gwleidyddol cyfoes, yn hytrach nag enw rhywun go iawn?
O dan yr amgylchiadau hynny, byddai llys yn debygol o ddod i'r casgliad bod enwau o'r fath yn “amlwg yn ffug” ac y dylai'r ffurflen enwebu gael ei gwrthod.
- 1. Schedule 1 rule 12(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 1 rule 12(2) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Schedule 1 rule 12(3A) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Schedule 1 rule 12(1) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Schedule 1 rule 53(3) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Schedule 1 rule 12(1) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Sanders v Chichester (1995) 139 SJLB 15 ↩ Back to content at footnote 7